O COVID I GOSTAU BYW

O COVID I GOSTAU BYW

O COVID I GOSTAU BYW YMCHWIL NEWYDD YN AMLYGU HERIAU PARHAOL SY’N WYNEBU TEULUOEDD YNG NGHYMRU

Mae gwir raddfa’r heriau sydd wedi wynebu teuluoedd yng Nghymru dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf wedi eu hamlinellu mewn adroddiad gan Achub y Plant.

Mae ‘O Covid-19 i Gostau Byw: 18 mis o ddarparu Grantiau’r Blynyddoedd Cynnar i Deuluoedd yng Nghymru yn amlygu rhai o’r prif broblemau y mae teuluoedd yn eu profi a sut y gallent gyfuno i wneud bywyd o ddydd i ddydd yn fwy cymhleth a heriol.

Mae tlodi ar gynnydd ar draws y DU a Chymru sydd â’r lefel uchaf o dlodi o’i chymharu â’r holl wledydd eraill, gyda bron 1 mewn 3 o blant yn tyfu i fyny yn ei afael. Mae trasiedi gynyddol tlodi plant yn y DU wedi cael ei dwysáu gan bandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Mae wedi gadael y plant mwyaf bregus a’u teuluoedd yn wynebu caledi cynyddol.

Trwy weithio gyda phartneriaid mewn cymunedau lleol gydol cyfnod pandemig a’r cyfnodau clo dilynol, fe wnaeth Achub y Plant ddosbarthu grantiau brys i deuluoedd ar draws y DU. Roedd y grantiau yma yn eu galluogi i gael pethau fel gwelyau, cadeiriau uchel, pramiau ac eitemau hanfodol eraill i’r cartref. Roeddent hefyd yn cynnwys adnoddau dysgu fel llyfrau, teganau, gweithgareddau addysgol, a thalebau i’w gwario ar fwyd ac eitemau hanfodol fel dillad.

Yn anffodus, ni chafodd yr angen yma am gymorth materol ei ddiwallu pan ddaeth y cyfnod clo i ben. Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod teuluoedd ar draws Cymru wedi parhau i gael anawsterau yn fforddio’r eitemau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i helpu eu plant i ffynnu.  Dyma pam fod Achub y Plant wedi parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth i deuluoedd trwy Grantiau’r Blynyddoedd Cynnar gan gyrraedd dros 1500 o blant yn byw ar 775 o aelwydydd dros y deunaw mis diwethaf.

Yn yr adroddiad byr yma rydym yn amlinellu canfyddiadau yn egluro pam fod ar deuluoedd angen y Grantiau’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf. Mae’n dangos mai’r mater mwyaf amlwg oedd Covid-19 a’r cyfnodau clo cysylltiedig. Yn yr un modd, yr argyfwng costau byw sydd wedi cynyddu ers y pandemig, yw’r ail fater mwyaf amlwg wnaeth effeithio ar deuluoedd. Mae pob un o’r digwyddiadau cymdeithasol ac economaidd enfawr hyn yn sefyll ar y cyd ag amrywiaeth o heriau eraill y mae teuluoedd yn eu hwynebu, fel materion gyda budd-daliadau, costau sy’n gysylltiedig gyda babi newydd, anableddau a phroblemau iechyd, dod i Gymru fel ffoadur neu geisiwr lloches, a materion tai, yn cynnwys digartrefedd a goroesi cam-drin domestig.

Meddai Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru: “Cyn gynted ag y dechreuodd effaith uniongyrchol pandemig Covid-19 lacio, daeth yr argyfwng costau byw i’r amlwg gan adael y plant mwyaf bregus a’u teuluoedd yn wynebu caledi cynyddol.

“Mae’r cymorth a ddarperir trwy Grantiau’r Blynyddoedd Cynnar yn rhoi rhywfaint o ryddhad i deuluoedd, gan eu helpu i fodloni eu hanghenion materol a chefnogi addysg eu plant. Mae’r cymorth a ddarperir gan ein partneriaid cymunedol lleol yn mynd ymhellach i gefnogi teuluoedd trwy’r amrywiaeth o heriau y maent yn eu hwynebu. Fodd bynnag, dim ond i ryw fan y gall y cymorth hwn fynd; mae angen digon o arian ar blant a’u teuluoedd nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu.”

Mae’r elusen gymunedol Action in Caerau & Ely (ACE) yng Nghaerdydd yn cefnogi trigolion gyda sesiynau galw-i-mewn, siop deganau sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, pantri fwyd, man cynnes, caffi a gardd gymunedol. Mae ACE hefyd yn un o brif bartneriaid Achub y Plant sy’n dosbarthu’r  Grantiau Blynyddoedd Cynnar.

Meddai Nerys Sheehan, Cydlynydd Cefnogaeth Gymunedol Action in Caerau & Ely: “Ers y pandemig rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer o bobl sy’n dod atom eisiau help ac erbyn hyn mae gennym ryw hanner cant o bobl yn dod drwy’r drws yn wythnosol. Dydi pobl ddim yn gwybod lle i droi ac yn canfod eu hunain mewn sefyllfa argyfyngus heb allu fforddio bwyd a thanwydd. Mae’r math yma o grant yn gallu gwneud gwahaniaeth i gymaint o bobl ond dim ond hyn a hyn allwn ni ei wneud. Rwy’n poeni am y misoedd i ddod a sut y mae hyn i gyd yn mynd i effeithio’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae pethau’n mynd i waethygu.”

Ychwanegodd mam sengl o Gasnewydd a dderbyniodd un o’r grantiau yn ddiweddar: “Rwy’n mynd i ddefnyddio fy nhaleb i stocio i fyny ar fwyd – lot o duniau i gael ni drwy hyn i gyd –  oherwydd dwi’n wirioneddol stryglan i brynu yr hyn ‘ry’n ni ei angen.  Rydw i hefyd yn mynd i brynu anrhegion Nadolig i’m merch fach. Dydw i ddim yn gwybod be fyddwn ni wedi ei wneud heb y grant yma.”

Mae Melanie Simmonds yn teimlo’n gryf y dylid troi rhethreg yn weithred i wneud yn siŵr nad oes yr un plentyn yn colli allan. Meddai: “Mae Llywodraeth y DU yn eu datganiad diweddar wedi cymryd camau i leihau’r boen a’r pryder ar deuluoedd sydd wedi eu gorfodi hyd yma i fyd heb anghenion sylfaenol ac wedi gorfod mynd i ddyled. Mae cynyddu’r cap budd-daliadau i gyfateb gyda chwyddiant yn arwyddocaol. Ond rydym yn credu bod angen £10 yn ychwanegol y mis i’r elfen blant o’r Credyd Cynhwysol i roi cymorth i deuluoedd yn y tymor-hir ynghyd â mynd i’r afael gyda chostau gofal plant a chyfleon gwaith cynaliadwy.

“Mae hefyd angen i ni wneud yn siŵr nad yw’r toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd i effeithio at deuluoedd sydd angen cael mynediad i wasanaethau cyhoeddus angenrheidiol.”

Nodiadau i Olygyddion:

Cliciwch yma am gopi o’r adroddiad

Cipolwg ar fywyd yn ystod y cyfnod clo ar Ystâd Betws, Casnewydd

Cipolwg ar fywyd yn ystod y cyfnod clo ar Ystâd Betws, Casnewydd

Mae bellach yn ddwy flynedd i mewn i fywyd gyda Covid ac fel mam i dri o fechgyn, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld uchafbwyntiau a chyfnodau isel. Yn ystod y cyfnod clo, roedd heriau cynnal ysgol gartref, gweithio a rheoli teimladau o ansicrwydd, yn llethol ar adegau.

 

Ond fel teulu fe ddaethom drwyddi. Gyda’n gilydd

 

Fe wnaeth y teimladau o fod gyda’n gilydd a welais ar fy stepen drws, ac yn y gymuned lle rwy’n gweithio yn Betws yng Nghasnewydd, de Cymru, fy nghadw i fynd. Roedd pobl yn estyn allan i helpu ei gilydd, yn arbennig wrth i’r pandemig ddatgelu dyfnder yr anghydraddoldeb mewn cymdeithas a gwneud i bobl sylweddoli’r heriau dyddiol y mae’r rheiny sy’n byw ar incwm isel yn eu hwynebu.

 

Roedd teuluoedd eisoes yn cael anhawster cyn yr argyfwng. Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi clywed bod llawer wedi gorfod torri’n ôl ar hanfodion fel bwyd, gwres a dillad ar gyfer plant ac yn suddo’n ddyfnach i mewn i ddyled. Nid oedd gan lawer o rieni’r offer, yr adnoddau a’r sgiliau chwaith i gefnogi addysg a datblygiad eu plant yn ddigonol gartref, wnaeth arwain at lawer o straen a gorbryder.

 

Nid yw’r heriau hyn wedi eu cyfyngu i gyfnodau clo ac wrth i ni ddod allan i normal newydd, mae pwysau’r argyfwng costau byw yn golygu bod angen ymagweddau newydd arnom i sicrhau bod yr hyn sydd yn bwysig i deuluoedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

 

Ynglŷn â Betws a’r Gymuned Addysg Gynnar

 

Mae Betws yn ystâd o’r 1960au ar ymyl dinas Casnewydd, sef ystâd dai fwyaf Ewrop ar un adeg. Mae’n ardal sydd wedi gweld heriau gwirioneddol gydag un o’r cyfraddau tlodi sydd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru, ond mae yna deimlad cryf o gymuned.

 

Mae prosiect Cymuned Addysg Gynnar Betws yn bartneriaeth rhwng Achub y Plant, ysgolion cynradd lleol, rhieni, Cyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru, ymwelwyr iechyd, yr heddlu, grwpiau troseddwyr ifanc a chymdeithasau tai sydd wedi dod ynghyd i wella  canlyniadau addysg gynnar i blant yn yr ardal. Mae’n ceisio creu man lle mae gan bob plentyn gyfle cyfartal i lwyddo a ffynnu.

 

Dechreuodd y prosiect ar ei daith yn 2018, gan edrych pa broblemau oedd gan y gymuned a sut gallem fynd i’w gwraidd. Ein nod yw uno a chryfhau gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn syrthio trwy’r bylchau.

 

Pan gyhoeddwyd y cyfnod clo cyntaf ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom symud yn gyflym i gyfarfodydd ar-lein a chanfod ein bod yn gallu creu cymorth gwirioneddol yn gyflym. Gan weithio gyda’n partneriaid ar lawr gwlad, roeddem yn gallu cyflwyno 80 o grantiau mewn argyfwng i helpu i brynu eitemau sylfaenol i’r cartref a thalebau bwyd. Trwy roddion a chyfraniadau roeddem hefyd yn gallu cyflwyno pecynnau hylendid, pecynnau adnoddau teuluol, dyfeisiadau digidol a chymorth gyda dysgu yn y cartref, yn cynnwys dros 70 o chrome books.

 

Cipio lleisiau plant ar ffilm

 

Yn ystod 2020, comisiynwyd criw ffilmio i gipio lleisiau plant oedd yn byw yn Betws a chyfleu eu gobeithion a’u hofnau wrth iddynt dyfu i fyny yn y gymuned fach hon. Maent yn mynd ymlaen i siarad am yr heriau a’r penderfyniadau y maent eisiau i oedolion eu gwneud i sicrhau bywyd gwell iddynt.

 

Mae Lily May, sydd yn wyth oed, eisiau “i’r holl oedolion gydweithio i adeiladu tai newydd, gwell er mwyn i bobl sydd yn dlawd allu byw ynddynt.” Byddai Junior, sydd hefyd yn 8, yn hoffi ‘newid llygredd plastig.”

 

Dechreuodd y ffilmio ym mis Chwefror, cyn y cyfnod clo ac aeth ymlaen i mewn ac allan o gyfyngiadau lleol pan oedd y camerâu yn gallu ailymweld a chroniclo sut roedd bywyd wedi newid i’r plant a sut roedd prosiect Cymuned Addysg Gynnar Betws wedi gallu helpu.

 

Mae’r plant yn siarad ar y camera am y ffordd y gwnaeth pandemig Covid-19 effeithio ar eu bywydau ar yr ystâd, yn arbennig pan oedd yr ysgol ar gau, ac roedd y cyfnodau clo lleol o ganlyniad yn golygu eu bod wedi gorfod addasu i ddysgu gartref eto, gan golli allan ar weld eu hathrawon a’u ffrindiau.

 

“Roeddwn yn teimlo’n drist am fy mod yn caru’r ysgol,”
Laura, 8

 

“O’r blaen, roeddem yn gallu rhoi cwtsh i’n ffrindiau a’u gweld a defnyddio pensiliau lliw ein gilydd. Ond ni allwn rhagor, mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein rhai ein hunain,”
Cassie-Ella, 9

 

Mae’r ffilm fer ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd yn cynnwys lleisiau athrawon a phartneriaid oedd yn gweithio i helpu teuluoedd ar yr ystâd yn ystod yr argyfwng,

 

“Ni allai unrhyw un ohonom fod wedi rhagweld ein bod yn mynd i gael ein taro gan bandemig oedd yn golygu y byddai ysgolion ar gau ac na fyddem yn gallu mynd i unrhyw le. Roedd  effaith y ffaith fod prosiect Cymunedau Addysg Gynnar Betws eisoes wedi ei sefydlu yn golygu ein bod yn barod i fynd.”
Lindsay Watkins, Pennaeth, Ysgol Gynradd Millbrook

 

Ond er ei fod wedi bod yn amser anodd, mae teimlad o optimistiaeth o’r hyn y gellir ei gyflawni wrth symud ymlaen a datblygu cadernid y plant a’u teuluoedd i weithio gyda’i gilydd fel cymuned. Rydym wedi dysgu gwersi gwerthfawr oddi wrth ein gilydd, yn arbennig y plant yr ydym yn ceisio sicrhau eu dyfodol.

 

Fel y dywed Kobie, sydd yn 9 oed, yn y ffilm: “Dyma sut mae cadernid yn gweithio!”

 

A dyma ffilm fer o Rebecca’n esbonio sut llwyddwyd i helpu teuluoedd yn Betws yn ystod y cyfnod clo