Beth yw newid systemau?
Newid systemau – beth ydyn ni’n feddwl?
Er mwyn gwneud gwahaniaeth cynaliadwy tymor hir i fywydau plant yn y Betws, rydym yn sylweddoli mai dim ond rhan o’r ateb all sefydliadau a gwasanaethau unigol ei gyflwyno. Yr hyn sydd ei angen yw i’r “system gyfan” – yr holl sefydliadau ac asiantaethau – o amgylch y plentyn a’r teulu gydweithio a chydweithredu’n well.
Rydym yn credu bod hyn yn ffordd dda o egluro system:
Mae system yn “gyfres o bethau – pobl, celloedd, molecylau neu beth bynnag – sydd wedi eu cysylltu yn y fath fodd fel eu bod yn cynhyrchu eu patrwm ymddygiad eu hunain dros amser”
Felly – mae’r “pethau” yn yr achos hwn yn cynnwys rhieni a theuluoedd, ysgolion, meithrinfeydd a gofal plant arall, cyflogwyr, y “system fudd-daliadau”, meddygon teulu, ymwelwyr iechyd a gwasanaethau eraill y GIG, gwasanaethau Cyngor Casnewydd, cymdeithasau tai a landlordiaid eraill, ac yn y blaen…
Newid systemau – fel methodoleg
Mae newid systemau’n golygu bod angen i’r holl elfennau, y “pethau” hyn, weithio gyda’i gilydd yn wahanol er mwyn cynhyrchu patrwm ymddygiad newydd fydd, yn ei dro, yn gwneud i’r system weithio’n well ar gyfer plant yn y Betws wrth iddynt dyfu.
Pa wahaniaeth fyddai’n ei wneud?
Ar gyfer teuluoedd
- Dim “drws anghywir” – trwy gael mynediad i un math o gefnogaeth, er enghraifft, gofyn i’r Ymwelydd Iechyd am ddatblygiad eich babi, yna gallech gael eich cyfeirio at wasanaethau eraill megis cyngor ar faeth, talebau banc bwyd, a dim ond unwaith fyddai rhaid ichi ddweud eich stori
- Cyfrannu eich profiadau i wasanaethau fel eu bod yn cyflawni eich anghenion yn well
- Cynyddu cefnogaeth leol yn ein hardal – bod â phobl leol i droi atynt
- Pontio’n haws rhwng gwasanaethau a lleoliadau
I asiantaethau sector cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol
- Rhannu gwybodaeth fel bod pob sefydliad sy’n gweithio gyda theulu yn eu hadnabod nhw a’u stori
- Deall y gymuned leol yn well a defnyddio tystiolaeth i yrru datblygiad gwasanaethau
- Gweithio gyda phartneriaid na fyddent, efallai, wedi cydweithio â nhw fel arall
- Crynhoi cyllid neu adnoddau eraill dan gennad a strategaeth gytûn
Cefnogi plant y Betws i dyfu a chyflawni – ein model systemau