Beth yw’r newid yr ydym am ei weld?
Gan dynnu ar ein dysg am newid systemau ac egwyddorion CAG Betws, rydym yn credu y bydd arfer dda yn edrych yn debyg i hyn:
1. Gweledigaeth a phwrpas cytûn Rydym yn gweithio gyda sefydliadau angor cymunedol lleol sy’n “berchen ar” y cysyniad ac sydd ag ymrwymiad gan bob rhanddeiliad – gyda newid positif ar gyfer plant wrth ei galon
2. Meddylfryd systemau Mae gennym ymrwymiad cytûn i weithio gyda’n gilydd ac o ddeall ac ymgysylltu gyda’r syniad bod gwahanol sefydliadau, prosesau a gweithdrefnau o amgylch y plentyn a’r teulu wedi eu rhyng-gysylltu o fewn “system”
3. Symud y pŵer i deuluoedd Mae’r agwedd rhaglen gyfan yn cael ei hysbysu gan ymgysylltu ystyrlon gyda gwybodaeth gan deuluoedd, a gall teuluoedd unigol lunio’r gefnogaeth y maent yn ei derbyn trwy gyd-gynhyrchu
4. Perthnasau cydweithredol, llawn ymddiriedaeth Mae partneriaid yn buddsoddi mewn creu perthnasau ac ymddiriedaeth fel sylfaen ar gyfer trosglwyddo cefnogaeth a newid tymor hir
5. Cefnogaeth integredig Mae partneriaid yn cydweithredu i drosglwyddo cefnogaeth integredig, wedi ei gydlynu i deuluoedd yn ardal darged CAG
6. Rhannu llywodraethu ac atebolrwydd Mae llywodraethu cydweithredol y CAG – y Bwrdd Prosiect – yn arwain at gydlynu effeithiol, wedi ei atgyfnerthu gan dybiaeth bod partneriaid yn rhannu atebolrwydd am y canlyniadau ac am greu’r amodau i’w trosglwyddo
7. Cyllido ac adnoddau wedi’u halinio At hynny, mae llywodraethu cydweithredol yn arwain at gydlynu effeithlon – bydd partneriaid yn clustnodi ac yn crynhoi adnoddau priodol fel bo angen ar gyfer trosglwyddiad effeithlon
8. Arweinyddiaeth systemau Mae arweinyddiaeth yn weithgaredd ar y cyd. Bydd pawb sy’n rhan o weledigaeth y CAG yn cael eu hysgogi i drosglwyddo’r weledigaeth a’u galluogi gan bobl sydd mewn swyddogaethau o awdurdod
9. Diwylliant o werthuso a dysgu sy’n galluogi cyfaddasu Bydd partneriaid yn myfyrio ar gynnydd ac yn defnyddio’r hyn y maent yn ei ddysgu i ddylanwadu ar lunio penderfyniadau pellach, bydd partneriaid yn addasu eu hagwedd yn seiliedig ar yr hyn maent yn ei ddysgu
10. Rhannu data a gwybodaeth Caiff gwybodaeth o ddata lefel poblogaeth, data unigol (lefel plentyn / teulu), ac am brofiadau plant / rhieni / teuluoedd eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio’n effeithlon ar draws y system
Beth yw’r newid yr ydym am ei weld?
Newid i blant a theuluoedd:
- Gwell datblygiad iaith a chyfathrebu
- Gwell datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
Newid i’r system:
