Mae Cymuned Addysg Gynnar Betws yn dod â sefydliadau lleol at ei gilydd i wneud yn siŵr bod plant yn y Betws yn derbyn y gefnogaeth y maen nhw ei angen i ffynnu, dysgu a thyfu i fyny mewn lle y gallan nhw fod yn falch ohono.
Mae ein partneriaeth yn cynnwys pawb sydd ynghlwm â magu plant heddiw. Mae hynny’n cynnwys teuluoedd, cymunedau, y cyngor lleol, Dechrau’n Deg, cymdeithasau tai, ysgolion ac athrawon, ymwelwyr iechyd a meddygon teulu, a grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol.
Ein nod yw helpu pawb i weithio gyda’i gilydd fel bod gwasanaethau a gweithgareddau’r gorau y gallant fod i ateb anghenion plant a sicrhau y gall pob plentyn gyflawni eu potensial. Mae hwn yn brosiect cydweithredol i ffurfio a dylunio’r dull hwn, mae’n ffordd newydd o weithio, ac nid y model tasg-gweithredu-canlyniad yr ydym wedi arfer ei weld. Dyma pam ein bod hefyd, ynghyd â’r prosiectau a’r gweithgareddau sy’n digwydd, yn gwerthuso’r hyn rydym yn ei wneud – rydym am ddysgu beth sy’n gweithio – a beth sydd ddim, pa effaith y mae’n ei gael ar ein plant nawr – a pha wahaniaeth y bydd yn ei gael iddynt i’r dyfodol.
Gwaith ar y gweill ydi hyn… ond mae llawer yn digwydd
Y wefan hon yw ein cofnod o’r hyn yr ydym yn ei wneud a’r hyn yr ydym yn ei ddysgu
Beth mae’n ei wneud a sut mae’n gweithio – Cliciwch yma am fwy
Gweithgareddau a digwyddiadau – cliciwch yma am fwy o’r hyn yr ydym yn ei wneud
Diweddariadau dysg – cliciwch yma am fwy o’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu hyd yma
“Mae newid systemau’n golygu mynd i’r afael ag achosion sylfaenol problemau cymdeithasol, sy’n aml yn anodd eu trin ac sydd wedi eu gwreiddio mewn rhwydweithiau o achos ac effaith. Mae’n broses fwriadol a ddyluniwyd i newid, yn sylfaenol, y cydrannau a’r strwythur sy’n achosi i’r system ymddwyn mewn ffordd benodol.”
“Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd. Mae angen inni weithio gyda’n gilydd i newid y system fel ein bod yn gwrando ar deuluoedd, gwneud i wasanaethau weithio gyda’i gilydd, a dod lan gyda syniadau newydd fydd yn helpu pob plentyn i ffynnu. Mae ein Cymuned Addysg Gynnar yma yn y Betws yn gwneud gwir wahaniaeth i deuluoedd lleol, a rhannu’r hyn rydym yn ei ddysgu er mwyn ysbrydoli eraill.”
