Pwy sy’n rhan o’r bartneriaeth a beth maen nhw’n wneud?
Pwy sy’n rhan o’r bartneriaeth a beth maen nhw’n wneud?
Mae dros 30 o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ac o amgylch Betws wedi dod at ei gilydd gyda thrigolion a rhieni lleol i wneud y newidiadau yr ydym am eu gweld ar gyfer plant a theuluoedd. Nawr, mae’r sefydliadau hyn yn rhan o Fwrdd Prosiect – sy’n arwain y rhaglen gyfan – a grwpiau gorchwyl a gorffen i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau i gyflawni amcanion penodol. Maent yn cael eu cefnogi gan Achub y Plant y DU.
CAG Betws – llywodraethu
Mae CAGB yn cael ei llywodraethu gan Fwrdd Prosiect o gynrychiolwyr o’r holl sefydliadau y mae eu gwaith yn cyffwrdd ar fywyd plentyn, ac maent yn cynnwys:
- Cyngor Dinas Casnewydd, ac yn benodol grŵp Hyb y Gogledd sydd bellach wedi’u lleoli yn y Betws
- Newport City Homes, y gymdeithas dai fwyaf yn y Betws
- Pobl, y brif gymdeithas dai arall
- Y tair ysgol gynradd yn ac o amgylch Betws
- Dechrau’n Deg, un o Raglenni Llywodraeth Cymru sy’n anelu i wella cyfleoedd bywyd plant sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru
- Yr Heddlu
- Y gwasanaeth iechyd
- A Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), sy’n ychwanegu llais mudiadau gwirfoddol a chymunedol Gwent.
Y Bwrdd Prosiect sy’n gosod y strategaeth ar gyfer y rhaglen CAG, adolygu cynnydd a chanlyniadau, ac arwain trosglwyddiad. Yn unol â bwriad cyffredinol yr ethos Cymuned Addysg Gynnar, mae’r bwrdd prosiect hefyd yn datblygu i fod yn gymuned o arfer myfyriol – dysg – er mwyn i’r arweinyddion lleol hyn ystyried sut y gellir cyfoethogi ac addasu’r “system” bresennol i ateb anghenion plant a theuluoedd yn well.
Datblygu Cymuned Addysg Gynnar Betws
Yn 2019, datblygodd Achub y Plant becyn cymorth yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth gynharach roddodd strwythur inni ar gyfer ymgynghori gyda sefydliadau partner a theuluoedd a datblygu’r prosiect. Fe wnaeth y pecyn cymorth:
- Dynnu ynghyd sgyrsiau o bob un o’r Cymunedau Addysg Gynnar
- Rhoi proses a thempled inni ar gyfer datblygu Strategaeth Addysg Gynnar ar gyfer Betws
- Darparu dull ar gyfer ymgysylltu gyda thystiolaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol ar wella deilliannau dysgu cynnar sydd wedi ei chyd-gasglu gan Achub y Plant
- Darparu adnoddau ac arbenigedd
- Ein galluogi i fyfyrio, profi a dysgu’n barhaus
Ffrydiau Gwaith Cymuned Addysg Gynnar Betws
Er mwyn mynd ati i weithio ar y cyd ac annog gwahanol sefydliadau a phersonél i gydweithio, cychwynnodd y rhaglen yn 2019 gyda thri grŵp ffrydiau gwaith:
FFRWD GWAITH UN – Gwella ymlyniad a lles rhieni
- Cyfannu Dechrau’n Deg gyda ffocws ar blant 0-3 oed.
FFRWD GWAITH DAU – Mannau diogel i chwarae a chwrdd er mwyn gwella lles meddyliol
Mapio, Gwerthfawrogi a Gwneud Gwell Defnydd o ofodau.
- Hyb Cymunedol.
- Creu tîm yn y Betws.
- Normau a disgwyliadau ar gyfer chwarae ac iechyd.
FFRWD GWAITH TRI – Creu newyddion positif, cydlyniad cymdeithasol ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau
- Datblygu newyddion a naratif positif
- Defnyddio & Gwella’r Gofod Ffisegol
