Creu cymuned gydnerth ar gyfer teuluoedd yn y Betws

Mae 1 o bob 4 person yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl – ond mae hyn yn awgrymu ei fod yn digwydd ar hap. Mae ein hiechyd meddwl yn cael ei bennu’n sylweddol gan ein hamgylchiadau yn hytrach na lwc enynnol ddrwg.

Beth ydym yn ei olygu pan fyddwn yn dweud ein bod yn defnyddio agwedd gaiff ei hysbysu gan drawma?

Mae mwy a mwy o bobl yn cydnabod bod plant cydnerth, iach yn datblygu orau mewn teuluoedd a chymunedau cydnerth, iach. Dangoswyd bod plant gaiff eu magu mewn cartrefi sy’n wynebu straen economaidd difrifol neu barhaus ac sydd â rhieni gyda phroblemau iechyd meddwl, yn profi amryw o ddeilliannau iechyd meddwl negyddol a gwrthgymdeithasol eu hunain. Mae plant yn gwbl ddiymadferth i newid eu bywydau eu hunain neu fywydau eu teuluoedd – maent yn ddibynnol ar yr oedolion o’u hamgylch. Mae’r syniadau hyn yn ganolog i’r agwedd yr ydym yn ei mabwysiadu tuag at seicoleg deuluol a datblygiad cymunedol.

Mae datblygiad cymunedol a hysbysir gan drawma yn deall y gall trafferthion iechyd emosiynol arwain at dlodi ond mae pobl y mae eu bywydau’n llawn o drawma ac adfyd, yn cynnwys tlodi, hefyd yn cael eu heffeithio’n anghyfartal gan drafferthion iechyd emosiynol neu’r hyn y bydd rhai’n ei alw’n afiechyd meddwl. Mae hyn yn golygu y dylid rhoi ffocws ar greu’r amodau sy’n meithrin elfennau fel cyfryngiad, diogelwch, cysylltiad, ystyr ac ymddiriedaeth. Y gwrthwyneb i hyn yw arferion a pherthnasau sy’n achosi cywilydd, gwarth, unigrwydd, ofn a theimladau o fod yn gaeth ac yn ddiymadferth. Mae angen gweithredu hyn yn y berthynas rhiant-plentyn yn ogystal ag yn y modd y mae gwasanaethau’n trin pobl, eu staff a’i hadlewyrchu trwy bolisïau a gweithdrefnau hefyd.

Y ddealltwriaeth hon yw’r sail ar gyfer yr agwedd teulu-cyfan yn y blynyddoedd cynnar iawn yr ydym yn ei harloesi yma yn y Betws.

Ceir enghreifftiau gwych o ddatblygu arfer yn y maes hwn yng Nghymru. Er enghraifft, mae nifer o raglenni Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnwys seicolegwyr cymwysedig yn eu modelau ymarfer. Mae ein gwaith gyda Chymuned Addysg Gynnar Betws yn mynd â’r agwedd hon gam ymhellach trwy greu gofod sy’n dwyn ynghyd nid yn unig Teuluoedd yn Gyntaf a chydweithwyr iechyd meddwl ond hefyd sefydliadau allweddol eraill fel yr ysgolion lleol, cymdeithasau tai, yr heddlu lleol, ymwelwyr iechyd, gweithwyr Dechrau’n Deg, rhanddeiliaid perthnasol eraill sydd â dylanwad dros yr amodau y mae plant a theuluoedd yn byw ynddynt ac, wrth gwrs, drigolion lleol – y maent i gyd, fel arfer, yn gweithio’n gwbl ar wahân.

Shield Graphic

Sut mae hyn yn newid y system?

Trwy greu lle i ddod i adnabod ein gilydd, a thrwy ein ffyrdd gwahanol o weithio, mae Cymuned Addysg Gynnar Betws yn caniatáu i’r amodau angenrheidiol ar gyfer cefnogi teuluoedd cyfan ymddangos. Mae hyn yn caniatáu defnydd mwy carcus o adnoddau a llu of safbwyntiau i helpu i amlygu datrysiadau gwell. Mae’n dechrau caniatáu ar gyfer gwell rhannu pŵer ar draws sectorau a gyda theuluoedd lleol hefyd.

Cynllun Peilot Cymunedau a Hysbysir gan Drawma, CAG Betws

Ein ffocws fydd dechrau mabwysiadu’r math yma o feddwl ac ymarfer ar lefel hynod-leol gyda rhieni plant dan 7 oed a gyda rhanddeiliaid allweddol yn y Betws.

Rydym yn cyd-ddatblygu agwedd seiliedig ar leoliad tuag at wytnwch a llesiant cymunedol yn y Betws gan ddefnyddio model tridarn:

  1. Gwella dealltwriaeth gymunedol am iechyd meddwl
  2. Datblygu ystyr, creu, adrodd straeon a sgiliau gweithredu ar y cyd
  3. Myfyrio, gwerthuso a chynnal

Sut rydym yn dysgu

Trwy’r model hwn, mae’r prosiect peilot hwn yn anelu i wella iechyd meddwl a llesiant plant a rhieni, ac i ddatblygu arferion integredig sy’n ffocysu ar hawliau dynol, di-drais, wedi eu hysbysu gan drawma, wedi eu harwain gan y gymuned, yn iachaol ac yn ddiwylliannol sensitif.

Bydd dysg o’r peilot hwn yn cyfrannu at y gronfa dystiolaeth ar gyfer y maes hwn, yn ogystal â hysbysu datblygiadau pellach mewn arfer yn lleol ac y genedlaethol.

Mae croeso ichi rannu