Hawliau plant yng Nghymru
Hawliau fy mhlentyn
Mae gan eich plentyn hawliau. Mewn gwirionedd, mae gan bob plentyn o dan 18 eu cyfres eu hunain o hawliau, yn ogystal â’r hawliau dynol sydd gan bobl o bob oed. Hawliau plant yw’r enw ar y rhain ac maent wedi eu nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Maent yn amlinellu’r hyn sydd ei angen ar blant i roi’r cyfle gorau iddynt dyfu i fyny yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Mae gan oedolion fel rhieni, ysgolion, cynghorau a llywodraethau gyfrifoldeb i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hawliau.