MAE LLYWODRAETH Y DU WEDI CYMRYD CAMAU I LEIHAU’R BOEN I DEULUOEDD OND MAE AMSEROEDD CALED DAL AR Y GORWEL

Meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Rydym wedi ein calonogi heddiw gan gefnogaeth y Canghellor i blant a theuluoedd wrth i rieni wynebu’r amodau economaidd caletaf iddynt erioed eu gweld. Mae pawb yn dioddef ar hyn o bryd, ond o weld bod cyllideb ar gyfer budd-daliadau yn cynyddu o dros 10% a’r Cyflog Byw Cenedlaethol o dros 9%, dylai hyn rhoi rhywfaint o obaith i’r dyfodol.

“Rydym yn falch o weld budd-daliadau a’r cap ar fudd-daliadau yn codi gyda chwyddiant. Bydd y cynnydd i’r taliad Credyd Cynhwysol yn allweddol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dal deupen llinyn ynghyd oherwydd yr argyfwng costau byw. Er byddai wedi bod yn fuddiol i gyflwyno hyn yn gynt yn hytrach na gwneud i bobl aros tan Ebrill 2023.  

“Mae cynyddu’r cap budd-daliadau i gyfateb gyda chwyddiant yn arwyddocaol. Mae’r cap yma yn annheg ac yn rhwystro dros 100,000 o aelwydydd ar draws y DU gyda phlant rhag cael mynediad llawn i’r hyn sy’n ddyledus iddynt. Rydym yn gobeithio mai dyma fydd y cam gyntaf tuag at gael gwared â’r cap yn llwyr.

“Mae cyhoeddiad y Canghellor na fydd biliau ynni yn mynd yn fwy na £3000, ynghyd â chymorth o £900 yn ychwanegol fel taliad costau byw i’r rhai ar fudd-daliadau yn mynd i helpu pobl. Eto, rydym yn pryderu unwaith eto nad yw’r taliadau un-tro yma yn cymryd maint y teulu i ystyriaeth, sy’n golygu y bydd rhai plant yn colli allan. Rydym yn credu bod angen £10 yn ychwanegol y mis i’r elfen blant o’r Credyd Cynhwysol i roi cymorth i deuluoedd yn y tymor-hir.

“Mae rhieni rydym yn gweithio gyda hwy hefyd yn poeni nad yw’r cymorth cywir ar gael i’w helpu i fynd yn ôl i’r gwaith. Mae cost aruthrol gofal plant yn un o’r rhwystrau mwyaf i ganfod gwaith ac ni chafodd hyn ei grybwyll gan y Canghellor. Gyda  41% o’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar draws y DU eisoes mewn gwaith, dyw holi 600,000 o bobl yn ychwanegol i gwrdd gyda hyfforddwr y gweithle ddim yn flaenoriaeth synhwyrol ac mae pryder erbyn hyn am sancsiynau newydd.

“Gallwn weld fod Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i leihau’r boen a’r pryder ar deuluoedd sydd wedi eu gorfodi hyd yma i fyd heb anghenion sylfaenol ac wedi gorfod mynd i ddyled. Ond dylai hyn fod y cam cyntaf o nifer tuag at droi’r rhethreg yn weithred a sicrhau nad oes yr un plentyn yn colli allan oherwydd y twll mawr y mae biliau a chostau bwyd yn ei greu ym mhocedi teuluoedd.”

Mae croeso ichi rannu