Sut ydyn ni’n newid y system ar gyfer teuluoedd yn y Betws?
Sut ydyn ni’n newid y system ar gyfer teuluoedd yn y Betws?
Newid ar gyfer plant a theuluoedd:
- Gwell hyder gan rieni i ddefnyddio chwarae fel offeryn ar gyfer datblygu
- Mwy o gyfleoedd ar gyfer cefnogaeth a chysylltiad cymheiriaid
- Gwell parodrwydd ar gyfer yr ysgol
- Gwell hyder gan rieni ynghylch y cyfnod pontio i’r ysgol
- Gwell llesiant rhieni
- Gwell perthnasau ac ymlyniad o fewn teuluoedd
- Teuluoedd sy’n fwy abl i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir
Newidiadau i’r system:
Deall newid ar lefel systemau
Mae New Philanthropy Capital a Collaborate yn gweithio gyda’r holl Gymunedau Addysg Gynnar ar draws y Deyrnas Unedig i’n helpu ni i ddeall yr amodau sydd eu hangen i ddylanwadu ar ganlyniadau ar lefel systemau.
yn gweithio gyda phob un o’r Cymunedau Addysg Gynnar ar draws y Deyrnas Unedig i’n helpu i ddeall yr amodau sydd eu hangen i ddylanwadu ar ddeilliannau ar lefel systemau.
Rydym yn defnyddio Model Matrics Aeddfedrwydd sy’n dynodi 10 o amodau sy’n galluogi ac yn cefnogi newid mewn systemau dysgu cynnar. Mae’n cynnwys pedair lefel wahanol o aeddfedrwydd ar gyfer pob un o amodau’r system:
- Yn ymddangos
- Yn datblygu
- Yn aeddfedu
- Yn ffynnu
Mae hefyd yn cynnig disgrifiad o sut fyddai pob un o’r cyfnodau datblygu hyn yn edrych yn y Gymuned Addysg Gynnar.
Bydd y Bwrdd Prosiect yn adolygu’r canfyddiadau a’r argymhellion o’n gwerthusiad Cyngor Casnewydd / Collaborate lleol ym mis Mawrth 2022 a bydd hyn yn ein helpu i ddeall ble rydym yn gwneud cynnydd ar lefel systemau a ble y dylem droi ein sylw.
