Deall y Jargon
Deall y Jargon
Dyma restr ddefnyddiol o jargon y gallech eu clywed cyn i’ch plentyn ddechrau yn yr ysgol:
Asesu ar gyfer Dysgu – rhaglen o weithgareddau addysgu a dysgu sydd wedi eu dylunio i ddarparu gwybodaeth i gael ei defnyddio fel adborth i addasu’r gweithgareddau dysgu. Yr enghreifftiau o Asesu ar gyfer Dysgu yw: holi effeithiol, arsylwi myfyrwyr yn ystod gweithgareddau addysgu a dysgu, trafodaethau dosbarth, gwaith dadansoddi a rhoi adborth i fyfyrwyr.
DPP – Datblygiad Proffesiynol Parhaus – unrhyw weithgaredd sy’n cynyddu gwybodaeth neu ddealltwriaeth athrawon mewn ysgolion.
DP – Dysgu Proffesiynol i ddatblygu addysgeg a dealltwriaeth athrawon ymhellach.
Saesneg fel Iaith Ychwanegol – cyfeirio at blant nad lle nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, ac efallai nad ydynt yn siarad Saesneg yn rhugl neu ddim o gwbl.
Proffil Un Dudalen – yn ymwneud ag ADY.
ADY- Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal – Mae gan fyfyrwyr sydd â Chynllun Addysg, Iechyd a Gofal anghenion addysgol arbennig, a byddant yn cael cymorth ychwanegol wrth ddysgu. Mae’r cynlluniau yn amlinellu anghenion y plentyn a’r cymorth sydd ei angen arnynt, a chânt eu hadolygu’n flynyddol.
Blynyddoedd Cynnar – Dosbarth Meithrin neu Dderbyn fel arfer
Prydau Ysgol am Ddim – Bydd myfyrwyr sydd yn cael Prydau Ysgol am Ddim yn cael cyllid ychwanegol i gefnogi eu gweithgareddau dysgu yn y dosbarth a thu allan i’r dosbarth
CALU – Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch – mae CALU yn gwneud yr holl bethau y mae cynorthwyydd addysgu arferol yn ei wneud ond mae ganddynt fwy o gyfrifoldeb, fel gallu addysgu dosbarthiadau ar eu pen eu hunain, llenwi absenoldebau wedi eu trefnu a rhoi amser i athrawon gynllunio a marcio.
Cynllun Addysg Unigol / Cynllun Cynnydd Unigol – nodi anghenion addysgol arbennig plentyn ac yn amlinellu targedau a strategaethau i gefnogi eu dysgu.
ALl / AALl – Awdurdod Lleol / Awdurdod Addysg Lleol – llywodraeth leol â chyfrifoldeb dros addysg
CADY – Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
Tîm Uwch-reolwyr – Uwch Dîm Rheoli / Arwain
Cynorthwyydd Addysgu – Cynorthwyydd Addysgu – mae rôl cynorthwyydd addysgu yn amrywio ond mae fel arfer yn cynnwys rhai neu bob un o’r canlynol: gweithio un i un neu mewn grwpiau bach o fyfyrwyr, cefnogi myfyrwyr gydag anawsterau neu anableddau dysgu, paratoi’r dosbarth ar gyfer gwersi, creu arddangosfeydd, helpu gyda theithiau neu ddigwyddiadau ysgol.
CiG – Cwricwlwm i Gymru.
Meysydd Dysgu a Phrofiad e.e. Iechyd a Llesiant, Y Celfyddydau Mynegiannol.
Camau Cynnydd.