Chwarae
Mae amgylchedd y cartref, a chwarae yn arbennig, yn hollbwysig ar gyfer dysgu yn y blynyddoedd cynnar. Cyn dechrau yn yr ysgol, bydd plant yn dysgu yn y cartref gan amlaf ac yn y gymuned leol trwy chwarae a rhyngweithio’n gymdeithasol gyda’r rhai sydd yn rhoi gofal a phobl eraill.
Sut gallaf i helpu fy mhlentyn?
- Modelu iaith glir
- Siarad heb gynhyrfu
- Gwneud cyswllt llygad – ceisiwch fynd i lawr i lefel y plentyn
- Ailadrodd brawddegau yn ôl i blant, gan ddefnyddio’r geiriau cywir yn lle rhai anghywir
- Parhau i ddisgrifio a rhoi sylwadau yn ystod bywyd bob dydd
- Rhoi sylwadau ar yr hyn mae’r plant yn ei wneud
- Gwrando’n ofalus pan fydd y plant yn siarad â chi – ceisiwch fod yn amyneddgar a rhoi amser i’r plant ganfod eu geiriau a chreu brawddegau.
- Ceisiwch osgoi gofyn llawer o gwestiynau – yn hytrach ceisiwch ddisgrifio’r hyn maent yn ei wneud
- Rhoi canmoliaeth
Rhai syniadau ar gyfer gweithgareddau:
- Darllen stori gyda’ch gilydd bob dydd – mae ychydig funudau bob dydd yn help mawr!
- Dangos a dweud – wyt ti’n gallu dangos dy lun i fi? Cwestiynau beth, pam, lle
- Canu Hwiangerddi gyda’ch gilydd
- Gweithgareddau chwarae rôl – chwarae tŷ ac yn y blaen