Ein gweithgareddau a’n prosiectau
Ein prosiectau
Cafodd y pandemig Covid-19, â’i gyfnodau clo a’i gyfyngiadau ar gymdeithasu, effaith sylweddol ar ddatblygiad gwaith Cymuned Addysg Gynnar Betws.
Ar ôl dwy flynedd, gyda’r cyfyngiadau’n llacio, mae ffrydiau gwaith y Gymuned Addysg Gynnar wedi ailgychwyn ein gwaith prosiect gyda meddwl penodol ar sut rydym yn cefnogi plant a’u cymunedau i fod yn fwy cydnerth ac yn fwy abl i gyfaddasu i newid.
Er gwaethaf yr holl darfu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi llwyddo i fwrw ymlaen gyda rhai pethau:
- Bellach, mae gennym Dîm Prosiect Betws – wedi eu cyflogi gan Achub y Plant ond yn gweithio yn y gymuned yn y Betws. Mae hwn yn cynnwys Swyddog Prosiect sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd
- Rydym yn cael defnyddio’r ‘North Hub’, sydd newydd ei adnewyddu, yn y ganolfan siopa ar Monnow Way
- Rydym wedi mapio sut a ble y mae plant yn chwarae yn yr ardal
- Daeth asiantaethau lleol ynghyd yn ystod y pandemig i gasglu a dosbarthu deunyddiau ac offer ar gyfer dysg a chwarae plant
Ymgysylltu parhaus gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol
Mae’r rôl Swyddog Prosiect yn gam pwysig ymlaen i Gymuned Addysg Gynnar Betws – mae’n sicrhau presenoldeb lleol a ffocws ar gyfer gweithgareddau a chyfathrebiadau’r GAG. Un elfen allweddol fu’r cyfle y mae wedi ei gyflwyno i greu cysylltiadau’n lleol, sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod am y rhaglen, a dod i wybod pwy y mae rhieni’n ymddiried ynddynt. Mae wedi bod yn elfen cwbl hanfodol yn natblygiad ein rhaglenni partneriaeth.
Ac yn dilyn yr egwyl a orfodwyd gan y pandemig Covid-19 (2020-21), daeth ein ffrydiau gwaith sydd â ffocws ar bartneriaethau at ei gilydd i ddelio gyda blaenoriaethau wedi eu diweddaru:
- Datblygiad cymunedol wedi ei hysbysu gan drawma – sy’n delio gydag effaith straen tymor hir a achosir gan dlodi ar unigolion, teuluoedd a chymunedau (cliciwch yma)
- Dysgu trwy chwarae – sy’n canolbwyntio ar hwyluso, gwella ac annog chwarae plant (cliciwch yma)
- Cyfnodau pontio – cefnogi plant a theuluoedd trwy gerrig milltir a datblygiadau allweddol (cliciwch yma)
Prosiect Embrace
Yn ein cymuned addysg gynnar, rydym yn gwybod bod iechyd meddwl yn gyd-destunol.
Mae hyn yn golygu ei fod yn dibynnu ar amodau y cawn ein geni, tyfu, gweithio, byw, ac heneiddio ynddynt. Mae’n amhosib ddeall iechyd meddwl heb ystyried amgylchiadau, perthnasoedd ac amgylcheddau yn gyntaf.
Rydym yn gwybod yn uniongyrchol y gall tyfu i fyny yn amgylchiadau sy’n wynebu tlodi, a lle mae rhieni’n profi problemau iechyd meddwl, arwain at ganlyniadau iechyd meddwl negyddol i blant. Gwyddom hefyd fod lleihau straen ar rieni yn gwella cyfleoedd ar gyfer ymlyniad, bondio, chwarae a chyfnewid llafar rhwng rhiant a phlentyn.
Yn rhy aml pan fyddwn yn siarad am iechyd meddwl rydym yn canolbwyntio ar yr unigolyn a gofynnwn, “Beth sy’n bod arnoch chi?”. Y cwestiwn mwyaf defnyddiol yw, “Beth sydd wedi digwydd i chi, yn eich teulu a’ch cymuned?”
Nodau prosiect Embrace yw; gwella canlyniadau iechyd meddwl a lles plant a rhieni, i archwilio sut i ddarparu cymorth a gwasanaethau sy’n cael eu llywio gan drawma, a arweinir gan y gymuned, sy’n iachau ac yn sensitif yn ddiwylliannol, i ddatblygu mudiad hunan-iachawyr (rhwydwaith cymorth oedolion cyfoedion i gyfoedion) ac i ddefnyddio adrodd straeon ar gyfer newid systemau trwy gyd-ddatblygu dull seiliedig ar le i ddeall angen a gwella lles a gwytnwch cymunedol ym Metws.
Cliciwch yma am fwy o fanylion.
Mae ein gwaith cyfredol yn cynnwys
Ymgysylltu parhaus gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol
Mae’r rôl Swyddog Prosiect yn gam pwysig ymlaen i Gymuned Addysg Gynnar Betws – mae’n sicrhau presenoldeb lleol a ffocws ar gyfer gweithgareddau a chyfathrebiadau’r GAG. Un elfen allweddol fu’r cyfle y mae wedi ei gyflwyno i greu cysylltiadau’n lleol, sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod am y rhaglen, a dod i wybod pwy y mae rhieni’n ymddiried ynddynt. Mae wedi bod yn elfen cwbl hanfodol yn natblygiad ein rhaglenni partneriaeth.
Cysylltwch gyda’r Swyddog Prosiect K.Nott@savethechildren.org.uk
Clwb Bisgedi
Mae Swyddog Prosiect Betws wedi datblygu’r Clwb Bisgedi, sydd bellach wedi ei leoli yn Betws yn ei Blodau, a Chlwb Coffi Ysgol Gymraeg Ifor Hael fel grwpiau clonc anffurfiol wythnosol ble gall rhieni gwrdd, cymdeithasu, a thrafod unrhyw broblemau sydd ganddynt. Maent yn gyfle i’r Swyddog Prosiect gynghori, awgrymu cynghorion defnyddiol, a gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau eraill, os oes angen. Gallwn hefyd drefnu hyfforddiant i grŵp ar bynciau defnyddiol a gweithgareddau cymdeithasol hefyd.
Mae’r grwpiau hefyd yn gyfle defnyddiol i rieni adrodd yn ôl i’r Tîm Prosiect am faterion sy’n eu pryderu neu ymateb i geisiadau ymgynghori.
“Mae’r Clwb Bisgedi wedi fy helpu i deimlo’n hyderus gyda fy mhlant ac mae gallu cael grŵp hyfryd o famau i sgwrsio gyda nhw a mwynhau’r holl weithgareddau wedi bod mor braf” Rhiant, Betws, 2021
O fis Mawrth 2022 ymlaen, cynhelir y clybiau coffi hyn yn Ysgol Millbrook ag Ysgol Monnow. Cysylltwch gyda’n Swyddog Prosiect am fwy o fanylion.
Rhaglen Grantiau’r Blynyddoedd Cynnar
Mae Achub y Plant yn darparu Grantiau Blynyddoedd Cynnar i deuluoedd sydd â phlant 0-7 oed ac sy’n dioddef anawsterau ariannol. Mae’r grantiau werth hyd at £340 a gellir eu defnyddio i brynu peiriannau i’r gegin, talebau archfarchnad a phecynnau blynyddoedd cynnar. Maent yn anelu i gefnogi teuluoedd sydd ag anghenion brys mewn cymunedau, sicrhau parhad dysg gynnar plant a lleihau anghydraddoldebau yn yr amgylchedd dysgu gartref. Maent yn darparu i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi yr eitemau hanfodol y maent eu hangen ac yn lleihau pwysau ariannol pellach ar deuluoedd sydd eisoes yn fregus. Rydym yn gallu defnyddio’r rhyngweithiadau hyn gyda phlant a theuluoedd i glywed eu lleisiau a deall sut y maent wedi eu heffeithio.
Gall teuluoedd ymgeisio am y grantiau trwy ein partneriaid atgyfeirio.
“Ry’n ni wedi gwerthfawrogi’n fawr Grantiau Brys Achub y Plant yr ydym wedi gallu eu dyrannu. Maen nhw wedi bod yn gymorth aruthrol i rai o’n teuluoedd oherwydd eu bod yn gallu derbyn nwyddau’n gyflym iawn. Yn ogystal, oherwydd nad yw’r grant yn dibynnu ar brawf modd rydym yn gallu asesu anghenion y teulu’n gyflym ein hunain heb aros am waith papur i brofi eu bod mewn argyfwng. Mae teuluoedd wedi eu synnu’n llwyr eu bod wedi derbyn y fath gefnogaeth pan oeddent ei angen fwyaf”
