Pa wahaniaeth ydyn ni’n ei wneud?
Ar y dudalen hon, byddwn yn llwytho ein canfyddiadau a byddwn yn annog ein partneriaid a’n cyfranwyr i fyfyrio ar eu dysg a’u profiadau yn ein Blogiau
Yn ogystal â gweithio ar ein gwerthusiadau ein hunain o’n gweithgareddau yn y Betws, rydym hefyd yn cyfrannu at y dysg ehangach sy’n cael ei gynhyrchu gan bartneriaethau Achub y Plant gyda New Philanthropy Capital a Collaborate ar werthuso’r pum prosiect arddangos Cymuned Addysg Gynnar.
Dysgu a dylanwadu
Bob mis, mae ein Bwrdd Prosiect yn ymchwilio i bwnc penodol i ofyn:
- Beth arall ydyn ni’n ei wybod am hyn yn y Betws?
- Beth sy’n arfer dda yn y Betws ac mewn mannau eraill?
- Beth yw ein cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol?
