Beth ydym yn ei ddysgu
Datblygu Cymuned Addysg Gynnar Betws
Dechreuodd y gwaith ar CAG Betws yn 2019 pan ddaeth tua 100 o sefydliadau lleol a chenedlaethol at ei gilydd i adolygu anghenion teuluoedd yn y Betws, eu gosod yng nghyd-destun data lleol, polisïau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer datblygiad plant, pecyn cymorth o dystiolaeth, a phrofiadau uniongyrchol y bobl hynny sy’n byw a gweithio yn y Betws.
Cafodd y fethodoleg hon ei hysbysu gan ein dysg o raglenni blaenorol (cliciwch i fynd i O ble ddaeth y syniad?) ond mae angen inni hefyd ddeall a dysgu oddi wrth yr hyn yr ydym yn ei wneud wrth inni fynd yn ein blaen. Felly, yn ein Cymuned Addysg Gynnar rydym yn gwreiddio diwylliant o ddysgu – y dysg yma yw’r llinyn aur sy’n rhedeg trwy bopeth yr ydym yn ei wneud. Mae’n broses barhaus sy’n sail i sut yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau newid yn y system Blynyddoedd Cynnar.
Mae’n ein helpu i ddeall y cyd-destun presennol yn y Betws, ffurfio ein gweithgareddau, a deall os ydym yn gweld y deilliannau yr ydym yn gobeithio eu gweld ar gyfer plant a theuluoedd unigol a’r system Blynyddoedd Cynnar ehangach.
Datblygu diwylliant dysgu
Mae profi syniadau, peilota ffyrdd newydd o wneud pethau a dysgu oddi wrth yr hyn yr ydym yn ei wneud i gyd yn ein helpu i gefnogi plant a theuluoedd Betws yn well, trwy:
- Ddeall anghenion plant a theuluoedd yn y Betws dros amser
- Deall yr effaith yr ydym yn ei gael ar gyfer plant a theuluoedd dros amser
- Deall yr hyn sy’n gweithio’n dda. Beth sydd ddim yn gweithio cystal? Beth ydym am newid?
- Ffurfio ymyriadau newydd, prosiectau newydd
- Profi ffyrdd newydd o weithio gyda’n gilydd ar draws y system – gyda theuluoedd a sefydliadau
- Rhannu arfer dda a dysgu oddi wrth eraill
CAG Betws – Damcaniaeth o Newid
Trwy gydol 2019 bu dros 100 o sefydliadau lleol a chenedlaethol, ynghyd â thrigolion o’r gymuned, yn cyd-greu “damcaniaeth o newid”. Mae hon yn nodi, mewn ffordd resymegol, y problemau a ddynodwyd, y datrysiadau posibl, a’r deilliannau yr ydym am eu cyflawni.
Nawr ein bod wedi gweithio trwy’r materion, yn trosglwyddo prosiectau a gwerthuso’r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud, gallwn fod yn fwy clir ynghylch sut y mae’r system yn gweithio ac rydym wedi diweddaru ein Damcaniaeth o Newid.
Ein Damcaniaeth Newid
Mae cael Damcaniaeth Newid yn ein helpu ni i gyfleu’r newid yr ydym eisiau ei weld, a sut bydd ein gweithgareddau o gymorth i ni gyrraedd y man hwnnw. Mae adolygu ein Damcaniaeth Newid yn rheolaidd yn ein helpu ni i adlewyrchu ar ein nodau a’n cynlluniau a’r effaith yr ydym yn ei gael.


