Pam y Betws?

Beth ydi’r Betws?

Mae’r Betws yn ystâd dai i’r gogledd o Gasnewydd a adeiladwyd yn y 1960au wedi ei amgylchynu gan goed a chaeau. Mae Traffordd yr M4 yn creu ffin rhwng Betws a gweddill y ddinas. Mae’r Betws yn sefyll ar fryn ac mae’r brif gymuned breswyl yn cael ei gwasanaethu gan ffordd gylchol (Monnow Way) gydag un prif ffordd cysylltu. Er ei bod yn agos i’r ddinas a’r gwasanaethau a gynigir yno, mae datgysylltiad. Byddwch yn mynd ‘i’ Betws yn hytrach na ‘trwy’ Betws, ac mae’r trigolion lleol yn aml yn cyfeirio at fyw ‘ar’ Betws yn hytrach nag ‘yn’ Betws. O’r herwydd, er gwaetha’r ffaith ei bod mewn ardal drefol, mae ymdeimlad o ynysiad a diffyg cysylltiad gyda’r ardal ehangach ar gyfer trigolion a darparwyr gwasanaethau.

Mae’r boblogaeth bellach tua 8000 o bobl mewn tua 3500 o gartrefi – y mae’r mwyafrif ohonynt yn dai pâr gydag ambell floc o fflatiau grisiau’n unig.

Pam ddewiswyd Betws fel prosiect arddangos Cymuned Addysg Gynnar? 

Penderfynwyd mai’r Betws oedd y gymuned fwyaf priodol i gyflenwi’r ‘archwiliad dwfn’ hwn ac i fod yn ffocws ar gyfer y ddamcaniaeth newid a gweithgareddau’r cynllun strategol lleol am nifer o resymau:

  • Mae’r Betws yn ardal gydnabyddedig o anfantais gyda phobl ifanc yn wynebu anghydraddoldebau – o’i gymharu â meincnodau cenedlaethol – ar draws trwch o ddangosyddion anfantais
  • Roedd rhwydweithiau a phartneriaid Achub y Plant yn y Betws yn cynnig cyfle am lefel uchel o gefnogaeth i’r prosiect
  • Mae natur y gymuned yn y Betws – gyda llawer o deuluoedd gyda nifer o genedlaethau’n byw yn y Betws – yn darparu cyd-destun gwahanol i brosiectau arddangos Cymunedau Addysg Gynnar eraill yn y DU i gyfrannu at ddysg yn genedlaethol
  • Fel cymuned, mae gan y Betws ffiniau cymharol amlwg sy’n golygu bod gan y prosiect gylch dylanwad eglur.
woodland flash

Gweithio yn y Betws – pa fath o wybodaeth ydyn ni ei angen?

Rydym yn defnyddio llawer o fathau o ddata i’n helpu i ddeall cryfderau ac anghenion teuluoedd yn y Betws a sut mae ein gwaith yn effeithio ar deuluoedd mewn tlodi.

Mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i:

  • ddata meintiol ar anghenion a deilliannau ar gyfer plant a theuluoedd yn y Betws (e.e. addysg, iechyd, tai, cyllid a chyflogaeth) wedi ei dynnu o ffynonellau fel Y Cyfrifiad, Cyfrif Hawlwyr Yr Adran Gwaith a Phensiynau, tablau cynghrair ysgolion, ayyb.
  • Barn a phrofiadau teuluoedd trwy grwpiau ffocws, cyfweliadau 1:1, holiaduron, gweithdai, adrodd straeon a chwarae creadigol
  • Barn a phrofiadau gweithwyr proffesiynol trwy grwpiau ffocws, cyfweliadau grŵp ac 1:1, gweithdai, sesiynau cymunedau maes
  • Ymchwil wrth ddesg i arfer gorau yn y Betws a thu hwnt

Wrth i’n Cymuned Addysg Gynnar ddatblygu, rydym yn defnyddio data a dirnadaeth bob dydd i:

  • Ddeall anghenion a chryfderau teuluoedd a’r system yn y Betws
  • Llunio ymyriadau a ffyrdd o weithio
  • Deall yr effaith y mae ein gweithgarwch yn ei gael ar lefel y plentyn, ar lefel deuluol ac ar lefel systemau
  • Rhannu gyda phartneriaid er mwyn dylanwadu ar bolisi ac arfer ar bob lefel
  • Cyfrannu at brosiectau dysgu ehangach

 Beth all y ffynonellau data hyn ei ddweud wrthym am y Betws?

Mae ardal y Betws wedi ei chategoreiddio fel un o’r ardaloedd tlotaf yng Nghymru, er enghraifft:

  • Mae tair o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (SOAs) Ward Betws yn y 10% uchaf ar gyfer amddifadedd
  • Mae’r gyfran o blant sy’n byw mewn teuluoedd incwm isel yn uwch na ffigwr cyfartalog Cymru (20.5%) ac mewn dwy ardal cynnyrch ehangach yn y Betws mae’r graddfeydd yn cyrraedd dros 40%, ffigwr sy’n ddwywaith ffigwr cyfartalog Cymru.
  • Mae’r raddfa pobl sy’n hawlio budd-daliadau’n ddwywaith nifer cyfartalog
  • Mae 40% o oedolion yn dweud bod ganddynt ddim cymwysterau
  • Mae atgyfeiriadau i fanciau bwyd wedi bod yn cynyddu’n gyson ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 gan i lawer o bobl oedd yn gweithio cael eu gosod ar ffyrlo (ar 80% o’u cyflog) neu eu gyrru gartre’ o’r gwaith dros dro.
  • Mae 43% o gartrefi’n rhai rhent cymdeithasol gan gymdeithasau tai fel Newport City Homes, United Welsh a Pobl
  • Mae dros 10% o bobl yn dweud bod eu hiechyd yn wael neu’n wael iawn (o’i gymharu â 7% yng Nghasnewydd yn gyffredinol)

Mae croeso ichi rannu