Ymateb Achub y Plant Cymru i Ddatganiad Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU

Ymateb Achub y Plant Cymru i Ddatganiad Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU

MAE LLYWODRAETH Y DU WEDI CYMRYD CAMAU I LEIHAU’R BOEN I DEULUOEDD OND MAE AMSEROEDD CALED DAL AR Y GORWEL

Meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Rydym wedi ein calonogi heddiw gan gefnogaeth y Canghellor i blant a theuluoedd wrth i rieni wynebu’r amodau economaidd caletaf iddynt erioed eu gweld. Mae pawb yn dioddef ar hyn o bryd, ond o weld bod cyllideb ar gyfer budd-daliadau yn cynyddu o dros 10% a’r Cyflog Byw Cenedlaethol o dros 9%, dylai hyn rhoi rhywfaint o obaith i’r dyfodol.

“Rydym yn falch o weld budd-daliadau a’r cap ar fudd-daliadau yn codi gyda chwyddiant. Bydd y cynnydd i’r taliad Credyd Cynhwysol yn allweddol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dal deupen llinyn ynghyd oherwydd yr argyfwng costau byw. Er byddai wedi bod yn fuddiol i gyflwyno hyn yn gynt yn hytrach na gwneud i bobl aros tan Ebrill 2023.  

“Mae cynyddu’r cap budd-daliadau i gyfateb gyda chwyddiant yn arwyddocaol. Mae’r cap yma yn annheg ac yn rhwystro dros 100,000 o aelwydydd ar draws y DU gyda phlant rhag cael mynediad llawn i’r hyn sy’n ddyledus iddynt. Rydym yn gobeithio mai dyma fydd y cam gyntaf tuag at gael gwared â’r cap yn llwyr.

“Mae cyhoeddiad y Canghellor na fydd biliau ynni yn mynd yn fwy na £3000, ynghyd â chymorth o £900 yn ychwanegol fel taliad costau byw i’r rhai ar fudd-daliadau yn mynd i helpu pobl. Eto, rydym yn pryderu unwaith eto nad yw’r taliadau un-tro yma yn cymryd maint y teulu i ystyriaeth, sy’n golygu y bydd rhai plant yn colli allan. Rydym yn credu bod angen £10 yn ychwanegol y mis i’r elfen blant o’r Credyd Cynhwysol i roi cymorth i deuluoedd yn y tymor-hir.

“Mae rhieni rydym yn gweithio gyda hwy hefyd yn poeni nad yw’r cymorth cywir ar gael i’w helpu i fynd yn ôl i’r gwaith. Mae cost aruthrol gofal plant yn un o’r rhwystrau mwyaf i ganfod gwaith ac ni chafodd hyn ei grybwyll gan y Canghellor. Gyda  41% o’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar draws y DU eisoes mewn gwaith, dyw holi 600,000 o bobl yn ychwanegol i gwrdd gyda hyfforddwr y gweithle ddim yn flaenoriaeth synhwyrol ac mae pryder erbyn hyn am sancsiynau newydd.

“Gallwn weld fod Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i leihau’r boen a’r pryder ar deuluoedd sydd wedi eu gorfodi hyd yma i fyd heb anghenion sylfaenol ac wedi gorfod mynd i ddyled. Ond dylai hyn fod y cam cyntaf o nifer tuag at droi’r rhethreg yn weithred a sicrhau nad oes yr un plentyn yn colli allan oherwydd y twll mawr y mae biliau a chostau bwyd yn ei greu ym mhocedi teuluoedd.”

Cynnwys lleisiau teuluoedd – cyd-ddylunio yn y gwaith

Cynnwys lleisiau teuluoedd – cyd-ddylunio yn y gwaith

Y llynedd, wrth i’r wlad wyro rhwng cyfnodau clo covid a chyfyngiadau ar gymysgu’n gymdeithasol, gofynnwyd i Snook, ymgynghoraeth sy’n gweithio ar ailddylunio gwasanaethau, i’n helpu i ddyfnhau ein hymgysylltiad â theuluoedd er mwyn sicrhau bod eu hanghenion a’u huchelgeisiau yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Gelwir y broses hon o asiantaethau a chleientiaid yn gweithio gyda’i gilydd yn gyd-ddylunio neu gyd-gynhyrchu os yw cleientiaid yn gysylltiedig â chyflwyno’r gwasanaethau hefyd.

Felly, rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021, hwylusodd Snook nifer o weithdai gyda phartneriaid ar draws cymuned Addysg Gynnar Betws, yn cynnwys sefydliadau addysg, iechyd a gwirfoddol a chymuned. Ein nod oedd creu fframwaith ar gyfer cyd-ddylunio ac archwilio beth yw’r rhwystrau, y cyfleoedd a’r anghenion i’w gyflawni. Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar bum elfen – gweledigaeth, gwerthoedd, persona, sianeli, gwahanrediad – a galluogwyd ni i’w harchwilio’n fanylach trwy ofyn cwestiynau fel, beth ydych yn credu ynddo, sut rydym yn wahanol, sut rydym yn cyfathrebu?

Oherwydd cyd-destun y pandemig, roedd rhai o’r rhain yn anodd gweithio trwyddynt – mae cyfathrebu gyda, a rhwng teuluoedd, a rhwng teuluoedd a sefydliadau wedi bod yn arbennig o anodd, a gall fod yn anodd ymgysylltu â theuluoedd pan fyddant yn canolbwyntio ar flaenoriaethau uniongyrchol, heb fynediad at dechnolegau cyfathrebu, ac yn ofni gweithgareddau grŵp pan roedd cyfraddau covid yn dal yn uchel.

Beth wnaethom ni ei ddysgu?

Anghenion Cymuned

  • Mae rhieni/gofalwyr angen amser a ffordd o gymryd rhan sy’n gweithio iddyn nhw. Maent yn haeddu teimlo’n ddiogel ynddynt eu hunain, eu cartrefi, eu hamgylchedd er mwyn teimlo’n ddigon hyderus i gymryd rhan
  • Mae angen cymorth arnynt i oresgyn unrhyw ddiffyg ymddiriedaeth neu ysgogiad – mae angen iddynt deimlo y bydd eu lleisiau’n cael eu clywed er mwyn teimlo’n hyderus gyda’u safbwyntiau eu hunain
  • Mae angen grymuso plant i ddeall beth allai cymryd rhan yn y gymuned ei olygu iddyn nhw. Mae angen perthnasoedd cryf arnynt i deimlo’n ddiogel y bydd eu lleisiau’n cael eu clywed
  • Mae angen i arweinwyr a gwirfoddolwyr rheolaidd cymuned deimlo bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi. Mae angen i fusnesau lleol weld y bydd y newidiadau o fudd iddynt a’u cwsmeriaid
  • Mae angen cyfathrebu clir ac iaith gyffredin ar bartneriaid sy’n cyflwyno gwasanaeth CAG fel bod pawb – yn cynnwys teuluoedd – yn deall mai yr un tîm ydym
  • Mae angen i bartneriaid sy’n cyflwyno gwasanaethau ddod i adnabod teuluoedd a’u hanghenion unigryw
  • Mae angen i gyd-ddylunio a chydgynhyrchu arwain gweithredoedd cynaliadwy ac ymyriadau er mwyn i ni gynnal ein hysgogiad i barhau’n gysylltiedig

Rhwystrau

  • Mae hyder – neu ddiffyg hyder – yn aml yn ganolog i’r rhwystrau rhag cymryd rhan a chyflwyno. Mae gan lawer o bobl ddiffyg profiad a hyder yn defnyddio technoleg, yn gofyn am gymorth, yn deall beth mae cyd-ddylunio’n ei olygu
  • Mae gwasanaethau yn aml wedi eu dylunio’n fwy o amgylch y gweithwyr proffesiynol sy’n eu cyflwyno na gofynion eu defnyddwyr
  • Mae mynediad at ofod, amser a thechnoleg yn rhwystr allweddol arall – yn arbennig yn ystod y pandemig
  • Cael ymrwymiad gan gymunedau y gallech fod wedi ymgynghori gyda nhw yn y gorffennol sydd heb weld gwahaniaethau gweladwy yn eu bywydau

Cyfleoedd

  • Mewn ymagwedd – sicrhau ein bod yn cyfathrebu’r hyn yr ydym yn ei wneud – mae i gyd i’w wneud â hynny – roi hyder bod y gymuned yn werthfawr ac yn rhan ddilys o’r broses o wneud penderfyniadau. Yna sicrhau bod y broses yn ymarferol i deuluoedd a phartneriaid cyflwyno a’n bod yn dysgu o’r hyn yr ydym yn ei wneud a’r hyn sydd wedi cael ei wneud o’r blaen
  • Mewn prosiectau – arddangos theori ar waith; dechrau gyda rhai prosiectau bach i ddatblygu momentwm

Ei wneud yn ymarferol – datblygu’r Clwb Bisgedi

Mae’r Clwb Bisgedi yn gyfle i rieni (gyda neu heb eu plant) i ddod ynghyd i rannu gwybodaeth, cymorth a chyngor. Mae wedi ei leoli yn Betws, yn Bloom, elusen leol, a chafodd ei ysbrydoli gan grwpiau tebyg mewn mannau eraill yn ne Cymru. Fe’i dechreuwyd gan rieni lleol mewn cydweithrediad â gweithwyr o’r cymdeithasau tai a GAVO, a arweiniodd y gweithgareddau i ddechrau, ond daeth y grŵp yn gynyddol hunangynhaliol.

Yna daeth y pandemig ac nid oedd y grŵp yn gallu cyfarfod mewn person am gryn amser, wnaeth rwystro datblygiad ymreolaeth y grŵp. Cadwodd yr aelodau mewn cysylltiad gan ddefnyddio WhatsApp, oedd yn effeithiol iawn yn ystod y pandemig – roedd yn galluogi aelodau i gadw mewn cysylltiad a pharhau â’r cyfeillgarwch oedd wedi datblygu, gan frwydro yn erbyn yr unigrwydd a’r ynysu yn ystod y cyfnod clo. Gwelsant hefyd bod WhatsApp yn ofod mwy niwtral ar gyfer gwneud awgrymiadau a datblygu syniadau.

Yn ystod haf 2021, penodwyd Kirstin Nott yn Swyddog Prosiect CAG gyda briff i ddatblygu ymgysylltu teuluol. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth oedd ceisio adfywio’r Clwb Bisgedi. Er iddi drefnu a hwyluso gweithgareddau ar gyfer y grŵp i ddechrau, mae wedi gallu datblygu rôl fwy cefnogol. Mae aelodau’r grŵp yn awgrymu gweithgareddau a materion yr hoffent glywed amdanynt, ac mae Kirstin yn eu trefnu. Erbyn Nadolig 2021, roedd y grŵp yn teimlo’n ddigon galluog a hyderus i drefnu parti ar gyfer y plant, gan wneud hyn eu hunain yn bennaf. Roedd yn llwyddiannus iawn, ond roedd y grŵp yn teimlo eu bod wedi dysgu cryn dipyn!

Mae model y Clwb Bisgedi bellach yn cael ei efelychu ar draws Betws gyda Chlybiau Bore Coffi’n cael eu cynnal yn wythnosol ym mhob un o’r ysgolion cynradd.