Oct 7, 2022 | Uncategorized
Mae gwaith i wella iechyd a lles meddwl plant a theuluoedd yn Betws wedi cael ei gyhoeddi yn rhifyn y mis yma o’r cylchgrawn Clinical Psychology Forum.
Mae’r erthygl yn canolbwyntio ar y gwaith cydweithredol rhwng Achub y Plant Cymru, yr elusen iechyd meddwl Platfform a theuluoedd yn Betws, i wella lles cymunedol, creu cysylltiadau a chymorth, a gwella canlyniadau addysg gynnar ar gyfer plant o’u genedigaeth hyd at saith oed.
Mae’n datblygu ac yn rhannu’r dystiolaeth sydd wedi helpu i lunio ymagwedd Cymuned Addysg Gynnar (CAG) Betws, sydd yn rhan o raglen Cymunedau Addysg Gynnar Achub y Plant, sydd yn dod â sefydliadau lleol ynghyd i sicrhau bod plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu, dysgu a chyflawni eu potensial.
Mae ‘Unlocking the system: Place-based ways of working with children, their families and a neighbourhood psychologist in Bettws, Wales’ yn amlygu’r effaith y mae amodau byw niweidiol, yn cynnwys amddifadedd, diffyg cyfle a thrawma’n eu cael ar iechyd meddwl a chanlyniadau dysgu, yn arbennig yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf ym mywyd plentyn.
Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod llawer o blant sydd yn byw mewn tlodi yn methu mynd i apwyntiadau ysbyty neu gael cymorth oherwydd y straen emosiynol, ariannol neu gymdeithasol ychwanegol y mae’n ei roi ar deuluoedd.
Mae’r erthygl yn esbonio’n fanwl sut mae CAG Betws yn gweithio gyda theuluoedd i ddeall yn well sut i gefnogi cymunedau a sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Dywdodd Dr Jen Daffin, Seicolegydd Clinigol Cymunedol, Platfform, yn yr erthygl “Gwyddom fod angen i ni ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar oherwydd gall profiadau mor niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith barhaus ar fywydau ifanc ond os gallwn estyn allan i deuluoedd gyda chymorth wedi ei deilwra, yn seiliedig ar y ddealltwriaeth hon, gallwn roi cymorth er mwyn cael dechrau gwell mewn bywyd.”
Rhan allweddol o ddatblygu’r ymagwedd hon yw lansio prosiect Embrace yn ddiweddar, sydd yn defnyddio dweud straeon i ddeall profiadau bywyd ac anghenion teuluoedd yn Betws a chanfod ffyrdd o wella lles a chydnerthedd cymunedol.
Mae’n adeiladu ar ganlyniadau arolwg o rieni Betws yn 2020 a ddangosodd fod llai na hanner yn teimlo bod iechyd meddwl y gymuned yn dda a thrafodaethau diweddar gyda theuluoedd a ddywedodd eu bod yn ei chael hi’n anodd cael cymorth ar gyfer iechyd a lles meddwl eu plant.
Mae’r erthygl yn nodi mai un o’r gofynion gan rieni oedd gofod cyfoedion lle byddent yn gallu rhannu eu straeon a’u profiadau.
Mae prosiect Embrace, a ddechreuwyd ym mis Mehefin 2022 ac sy’n cael ei ariannu gan Achub y Plant Cymru, yn dod â thri grŵp o wyth i 12 o deuluoedd â phlant o dan saith oed ynghyd i rannu’r hyn sydd wedi bod yn anodd, yr hyn sydd wedi bod yn gadarnhaol a’r hyn y gellid ei wneud yn well er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair.
Mae’r grwpiau’n cyfarfod unwaith y mis ac mae’r hwyluswyr (CAG Betws a Platfform) a’r teuluoedd yn cofnodi’r straeon a rannwyd a’r hyn sydd wedi cael ei ddysgu.
Y nod yw creu cysylltiad cymdeithasol a chefnogaeth yn y gymuned a chymryd camau cynaliadwy fydd yn gwella iechyd meddwl, lles a chydnerthedd yn Betws.
Dywedodd Rebecca Thomas, Arweinydd CAG Betws, Achub y Plant Cymru, “Mae’n amser archwilio’r hyn sydd ei angen ar blant a theuluoedd heddiw a sut i ailddylunio ein hymagwedd a’n gwasanaethau i’w helpu yn well. Ein gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at y datblygiad yma.”
Mae ‘Unlocking the system: Place-based ways of working with children, their families and a neighbourhood psychologist in Bettws, Wales’ wedi ei ysgrifennu gan Dr Jen Daffin, Seicolegydd Clinigol Cymunedol, Platfform, Rebecca Thomas, Arweinydd CAG Betws, Achub y Plant Cymru a Siobhan Parry, Pennaeth y Gwasanaeth – Plant a Phobl Ifanc, Platfform.
I ddarllen erthygl Clinical Psychology Forum yn llawn cliciwch yma a gallwch ganfod mwy am brosiect Embrace ar ein gwefan Datblygu plant cydnerth yn Betws: adlewyrchu ar weithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma – Cymuned Addysg Gynnar Betws (bettwselc.org.uk)
Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar ddydd Llun 10 Hydref 2022. Y thema eleni, sydd wedi ei osod gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd, yw ‘gwneud iechyd a lles meddwl i bawb yn flaenoriaeth fyd-eang’ ac maent yn gofyn i bobl ofalu ar ôl eu hunain o ran eu hiechyd meddwl.
Sep 28, 2022 | Opportunities
A oes gennych chi syniad gwych a allai wella bywydau plant a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan dyfu i fyny mewn tlodi?
Ydych chi’n gweithio yn Betws, Casnewydd neu Ddwyrain Cymru gyda dull newydd yr hoffech roi cynnig arno a allai helpu i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd?
Os ydych wedi ateb oes a bod gennych syniad arloesol a allai wneud gwahaniaeth, yna byddai Cymuned Addysg Gynnar (CAG) Betws ac Achub y Plant Cymru wrth eu bodd yn clywed oddi wrthych!
O heddiw (Dydd Llun 26 Medi, 2022), anogir sefydliadau sydd yn gweithio yn ardal leol Betws yng Nghasnewydd, De-ddwyrain Cymru, i gyflwyno cais i Gronfa Arloesi CAG Betws.
Mae CAG Betws yn rhan o raglen Cymunedau Addysg Gynnar Achub y Plant sydd yn dod â sefydliadau lleol ynghyd i sicrhau bod plant yn Betws yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu, dysgu a chyrraedd eu potensial.
Rhan allweddol o’r dull partneriaeth yma yw dylunio dulliau newydd a dysgu beth sy’n gweithio a beth gellir ei wella.
Dyma pam yr ydym eisiau clywed am syniadau arloesol a allai wneud gwahaniaeth mewn meysydd allweddol fel;
- Gwella canlyniadau addysg gynnar ar gyfer plant o enedigaeth i saith oed
- Cynyddu cyfleoedd i blant ddysgu a chwarae yn yr awyr agored mewn ardaloedd diogel
- Helpu plant i bontio i’r dosbarth meithrin a derbyn yn yr ysgol gynradd
- Gwella iechyd a lles meddwl plant a rhieni
- Cynorthwyo plant a’u cymuned i fod yn fwy cydnerth a gallu addasu i newid yn well
- Rhoi cymorth ac arweiniad i blant a theuluoedd sydd yn byw mewn tlodi ac yn cael anhawster gyda’r argyfwng costau byw
Mae cyllid o gyfanswm o hyd at £70,000 dros ddwy flynedd ar gael ac anogir ceisiadau ar gyfer prosiectau bach a rhai mawr.
Lle y bo’n bosibl, dylai’r syniadau am brosiect arloesi fod wedi eu llunio mewn ffordd sydd yn annog cydweithredu rhwng amrywiaeth o wasanaethau’r blynyddoedd cynnar lleol a dylid eu cyd-ddylunio gyda phlant a theuluoedd lleol er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni eu hanghenion.
Dywedodd Rebecca Thomas, Arweinydd CAG Betws, “Mae hwn yn gyfle mor gyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r plant a’r teuluoedd sydd yn byw yn Betws a gwella nid yn unig canlyniadau addysg gynnar ond rhoi cymorth sydd yn cael ei lywio gan brofiad bywyd ac angen lleol.
“Rydym eisiau i’r prosiectau hyn brofi a dysgu o ddull newydd o fynd i’r afael â bwlch mewn gwasanaethau lleol presennol a rhoi dull newydd o ddylunio a chyflwyno gwasanaethau ar brawf.
“Gwyddom gymaint o syniadau gwych sy’n bodoli ac rydym yn annog sefydliadau i gyflwyno eu cynigion cyn gynted â phosibl!”
Dylid cyflwyno cynigion prosiect erbyn 1 Tachwedd, 2022 a hysbysir y cynigion llwyddiannus erbyn 17 Tachwedd, 2022.
Bydd yr holl brosiectau’n cael eu cyflwyno rhwng Ionawr 2023 ac Awst 2024.
I ganfod mwy cysylltwch â Rebecca Thomas yn r.thomas@savethechildren.org.uk neu llenwch y ffurflen gais (insert link).
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!
May 11, 2022 | families
Y llynedd, wrth i’r wlad wyro rhwng cyfnodau clo covid a chyfyngiadau ar gymysgu’n gymdeithasol, gofynnwyd i Snook, ymgynghoraeth sy’n gweithio ar ailddylunio gwasanaethau, i’n helpu i ddyfnhau ein hymgysylltiad â theuluoedd er mwyn sicrhau bod eu hanghenion a’u huchelgeisiau yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Gelwir y broses hon o asiantaethau a chleientiaid yn gweithio gyda’i gilydd yn gyd-ddylunio neu gyd-gynhyrchu os yw cleientiaid yn gysylltiedig â chyflwyno’r gwasanaethau hefyd.
Felly, rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021, hwylusodd Snook nifer o weithdai gyda phartneriaid ar draws cymuned Addysg Gynnar Betws, yn cynnwys sefydliadau addysg, iechyd a gwirfoddol a chymuned. Ein nod oedd creu fframwaith ar gyfer cyd-ddylunio ac archwilio beth yw’r rhwystrau, y cyfleoedd a’r anghenion i’w gyflawni. Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar bum elfen – gweledigaeth, gwerthoedd, persona, sianeli, gwahanrediad – a galluogwyd ni i’w harchwilio’n fanylach trwy ofyn cwestiynau fel, beth ydych yn credu ynddo, sut rydym yn wahanol, sut rydym yn cyfathrebu?
Oherwydd cyd-destun y pandemig, roedd rhai o’r rhain yn anodd gweithio trwyddynt – mae cyfathrebu gyda, a rhwng teuluoedd, a rhwng teuluoedd a sefydliadau wedi bod yn arbennig o anodd, a gall fod yn anodd ymgysylltu â theuluoedd pan fyddant yn canolbwyntio ar flaenoriaethau uniongyrchol, heb fynediad at dechnolegau cyfathrebu, ac yn ofni gweithgareddau grŵp pan roedd cyfraddau covid yn dal yn uchel.
Beth wnaethom ni ei ddysgu?
Anghenion Cymuned
- Mae rhieni/gofalwyr angen amser a ffordd o gymryd rhan sy’n gweithio iddyn nhw. Maent yn haeddu teimlo’n ddiogel ynddynt eu hunain, eu cartrefi, eu hamgylchedd er mwyn teimlo’n ddigon hyderus i gymryd rhan
- Mae angen cymorth arnynt i oresgyn unrhyw ddiffyg ymddiriedaeth neu ysgogiad – mae angen iddynt deimlo y bydd eu lleisiau’n cael eu clywed er mwyn teimlo’n hyderus gyda’u safbwyntiau eu hunain
- Mae angen grymuso plant i ddeall beth allai cymryd rhan yn y gymuned ei olygu iddyn nhw. Mae angen perthnasoedd cryf arnynt i deimlo’n ddiogel y bydd eu lleisiau’n cael eu clywed
- Mae angen i arweinwyr a gwirfoddolwyr rheolaidd cymuned deimlo bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi. Mae angen i fusnesau lleol weld y bydd y newidiadau o fudd iddynt a’u cwsmeriaid
- Mae angen cyfathrebu clir ac iaith gyffredin ar bartneriaid sy’n cyflwyno gwasanaeth CAG fel bod pawb – yn cynnwys teuluoedd – yn deall mai yr un tîm ydym
- Mae angen i bartneriaid sy’n cyflwyno gwasanaethau ddod i adnabod teuluoedd a’u hanghenion unigryw
- Mae angen i gyd-ddylunio a chydgynhyrchu arwain gweithredoedd cynaliadwy ac ymyriadau er mwyn i ni gynnal ein hysgogiad i barhau’n gysylltiedig
Rhwystrau
- Mae hyder – neu ddiffyg hyder – yn aml yn ganolog i’r rhwystrau rhag cymryd rhan a chyflwyno. Mae gan lawer o bobl ddiffyg profiad a hyder yn defnyddio technoleg, yn gofyn am gymorth, yn deall beth mae cyd-ddylunio’n ei olygu
- Mae gwasanaethau yn aml wedi eu dylunio’n fwy o amgylch y gweithwyr proffesiynol sy’n eu cyflwyno na gofynion eu defnyddwyr
- Mae mynediad at ofod, amser a thechnoleg yn rhwystr allweddol arall – yn arbennig yn ystod y pandemig
- Cael ymrwymiad gan gymunedau y gallech fod wedi ymgynghori gyda nhw yn y gorffennol sydd heb weld gwahaniaethau gweladwy yn eu bywydau
Cyfleoedd
- Mewn ymagwedd – sicrhau ein bod yn cyfathrebu’r hyn yr ydym yn ei wneud – mae i gyd i’w wneud â hynny – roi hyder bod y gymuned yn werthfawr ac yn rhan ddilys o’r broses o wneud penderfyniadau. Yna sicrhau bod y broses yn ymarferol i deuluoedd a phartneriaid cyflwyno a’n bod yn dysgu o’r hyn yr ydym yn ei wneud a’r hyn sydd wedi cael ei wneud o’r blaen
- Mewn prosiectau – arddangos theori ar waith; dechrau gyda rhai prosiectau bach i ddatblygu momentwm
Ei wneud yn ymarferol – datblygu’r Clwb Bisgedi
Mae’r Clwb Bisgedi yn gyfle i rieni (gyda neu heb eu plant) i ddod ynghyd i rannu gwybodaeth, cymorth a chyngor. Mae wedi ei leoli yn Betws, yn Bloom, elusen leol, a chafodd ei ysbrydoli gan grwpiau tebyg mewn mannau eraill yn ne Cymru. Fe’i dechreuwyd gan rieni lleol mewn cydweithrediad â gweithwyr o’r cymdeithasau tai a GAVO, a arweiniodd y gweithgareddau i ddechrau, ond daeth y grŵp yn gynyddol hunangynhaliol.
Yna daeth y pandemig ac nid oedd y grŵp yn gallu cyfarfod mewn person am gryn amser, wnaeth rwystro datblygiad ymreolaeth y grŵp. Cadwodd yr aelodau mewn cysylltiad gan ddefnyddio WhatsApp, oedd yn effeithiol iawn yn ystod y pandemig – roedd yn galluogi aelodau i gadw mewn cysylltiad a pharhau â’r cyfeillgarwch oedd wedi datblygu, gan frwydro yn erbyn yr unigrwydd a’r ynysu yn ystod y cyfnod clo. Gwelsant hefyd bod WhatsApp yn ofod mwy niwtral ar gyfer gwneud awgrymiadau a datblygu syniadau.
Yn ystod haf 2021, penodwyd Kirstin Nott yn Swyddog Prosiect CAG gyda briff i ddatblygu ymgysylltu teuluol. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth oedd ceisio adfywio’r Clwb Bisgedi. Er iddi drefnu a hwyluso gweithgareddau ar gyfer y grŵp i ddechrau, mae wedi gallu datblygu rôl fwy cefnogol. Mae aelodau’r grŵp yn awgrymu gweithgareddau a materion yr hoffent glywed amdanynt, ac mae Kirstin yn eu trefnu. Erbyn Nadolig 2021, roedd y grŵp yn teimlo’n ddigon galluog a hyderus i drefnu parti ar gyfer y plant, gan wneud hyn eu hunain yn bennaf. Roedd yn llwyddiannus iawn, ond roedd y grŵp yn teimlo eu bod wedi dysgu cryn dipyn!
Mae model y Clwb Bisgedi bellach yn cael ei efelychu ar draws Betws gyda Chlybiau Bore Coffi’n cael eu cynnal yn wythnosol ym mhob un o’r ysgolion cynradd.
May 11, 2022 | resilient children
Mae Cymuned Addysg Gynnar Betws, o’r cychwyn, wedi ymwneud â helpu plant sydd yn byw mewn tlodi i dorri’r cylch dieflig y gall tlodi eu caethiwo ynddo a’u cynorthwyo i ddysgu, datblygu a thyfu hyd eithaf eu potensial. Yn fwy penodol, rydym eisiau gweld canlyniadau gwell o ran lleferydd ac iaith ac yn eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Rydym yn gwneud hyn gyda dealltwriaeth bod yr holl sefydliadau a’r gwasanaethau sy’n rhyngweithio gyda phlant a theuluoedd yn rhan o system gymhleth nad yw wedi ei threfnu mewn ffordd sy’n eu galluogi i groesawu’r cymhlethdod hwnnw. Ni fydd systemau a phrosesau sydd wedi eu trefnu mewn ffordd dameidiog a diraddiol yn gallu cydnabod a mynd i’r afael â rhychwant anghenion plant a’u teuluoedd yn llawn.
Rydym bellach yn deall yn llawer gwell y berthynas rhwng iechyd meddwl, niwed, trawma a thrallod gan ddangos cylch dieflig rhwng iechyd meddwl a thlodi. Gall blynyddoedd cynnar yn llawn anhrefn arwain at broblemau iechyd emosiynol sy’n effeithio ar fynediad at addysg a chyflogaeth all wedyn gynyddu siawns pobl ifanc o gael cyswllt â’r system cyfiawnder troseddol neu fod heb waith a thlodi. Mae pobl sydd yn byw bywydau yn llawn trawma a niwed, yn cynnwys tlodi, hefyd yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan broblemau iechyd emosiynol – yn cynnwys cael diagnosis o orbryder, iselder, ADHD, anabledd dysgu, anhwylderau bwyta, ac yn y blaen sydd yn atgyfnerthu ymhellach y rhwystrau rhag dysgu a chreu incwm.
Mae arolwg o rieni lleol ar ddiwedd 2020 yn dangos realaeth rhai o’r materion hyn – roedd llai na hanner yr ymatebwyr yn teimlo bod iechyd meddwl eu cymuned yn dda, dim ond traean ddywedodd fod ganddynt ddigon o arian i fyw arno, ac roedd llai na phumed yn meddwl bod eu cymuned yn lle da i fyw.
Gwyddom fod angen canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar am y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o’r fath gael effaith barhaus ar fywydau ifanc ond os gallwn estyn allan i deuluoedd gyda chymorth wedi ei deilwra, yn seiliedig ar y ddealltwriaeth yma, gallwn roi cymorth ar gyfer dechrau gwell mewn bywyd. Mae rhaglenni ymchwil ac ymyrraeth blaenorol wedi tueddu i ganolbwyntio ar y berthynas rhwng rhieni a phlant, ond dengys tystiolaeth newydd fod pethau yn fwy cymhleth. Mae cymryd golwg ehangach yn golygu y gallwn weithio tuag at greu amgylcheddau teuluol a chymuned iach er mwyn sicrhau bod plant yn ffynnu. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod angen systemau arnom sydd yn cefnogi ymagweddau sy’n ystyriol o’r teulu cyfan. Mae angen i ymyriadau ganolbwyntio ar anghenion y teulu cyfan a deall effaith trawma a thrallod o un genhedlaeth i’r llall.
Dweud Straeon
Ein prosiect arloesol fydd i roi’r meddylfryd a’r ymarfer yma ar waith ar lefel hyper-leol gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid allweddol Betws trwy ddefnyddio ymagweddau dweud straeon (naratif) – sydd yn ystyried cyd-destunau ehangach bywydau a chydberthynas pobl.
Mae ein straeon yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer ein dewisiadau a’n hymddygiad (rydym yn actorion yn ein straeon ein hunain). Mae gennym i gyd straeon amdanom ein hunain, ac rydym yn talu sylw i wybodaeth sy’n cefnogi ein ‘straeon dewisol’. Nid y stori sydd gennym amdanom ni ein hunain, neu ein cymuned a’n hetifeddiaeth, yw’r unig stori sydd ar gael. Mae ymagwedd naratif yn canolbwyntio ar ofyn beth sydd wedi digwydd neu yn digwydd i rywun. Yn hytrach na gofyn beth sydd yn bod arnynt. Mae’r gwahaniaeth cynnil hwn yn symud y broblem oddi wrth y person i safbwynt ehangach am eu hamgylchiadau. Pan fyddwn yn deall bod ein hiechyd meddwl yn bennaf am ein hamgylchiadau, mae hwn yn newid angenrheidiol sylfaenol. Mae’n ein galluogi ni i chwilio am atebion gwahanol gan ganolbwyntio ar achosion ein problemau. Mae’n ein galluogi i ddefnyddio’r sgiliau, y galluoedd, y gwerthoedd, yr ymrwymiadau, y credoau a’r cymwyseddau – asedau – sydd gan bob un ohonom hefyd.
Bydd ein prosiect yn archwilio ffyrdd o ddarparu cymorth a gwasanaethau sydd yn cael eu harwain gan gymuned, yn ystyriol o drawma, yn sensitif yn ddiwylliannol ac, yn y pen draw, yn gwella. Wedi eu hwyluso gan rôl newydd Seicolegydd Cymdogaeth a Swyddog Prosiect CAG Betws, byddwn yn gweithio gyda rhieni lleol i sefydlu rhwydweithiau cymorth sydd yn hunanwella, wedi eu harwain gan gymheiriaid.
Straeon ar gyfer Newid Systemau
Mae bodau dynol bob amser wedi defnyddio straeon i wneud synnwyr o’n byd o anhrefn. Mae angen byd cynhwysfawr ac ystyrlon ar gyfer iechyd meddwl da. Heddiw mae dealltwriaeth gynyddol, er mwyn mynd i’r afael â phroblemau fel newid hinsawdd, anghydraddoldeb, a gofal iechyd, mae angen ymagwedd system gyfan arnom. Mae hyn yn golygu edrych am allan a gweld y system— edrych ar yr elfennau, rhyng-gysylltiadau, ei ddiben ehangach, a’i swyddogaeth. Mae deall y straeon hyn yn hanfodol i’n helpu ni i wneud synnwyr ohonynt.
Mae gan straeon lawer o rinweddau gwahanol sy’n eu gwneud yn bwysig ar gyfer newid systemau. Gall straeon ein helpu i gysylltu â’n hemosiynau a chael ystyr o batrymau. Gallant ddod â chymunedau at ei gilydd a chreu empathi ar draws gwahaniaeth. Gallant wneud i bethau deimlo’n bosibl. Felly, os ydym eisiau newid gwerthoedd, meddylfryd, rheolau a nodau system, mae newid y stori yn sylfaenol.
Byddwn yn defnyddio dweud straeon ar gyfer newid systemau trwy gyd-ddatblygu ymagwedd yn seiliedig ar le tuag at ddeall angen a gwella llesiant cymunedol a chadernid yn Betws. Bydd hyn mewn tair rhan yn cynnwys gwella dealltwriaeth o iechyd meddwl cymunedol, datblygu sgiliau creu ystyr, dweud straeon a gweithredu ar y cyd, yn ogystal ag adlewyrchu, dysgu, gweithredu a chwilio am ffyrdd o gynnal newid.
Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei ddysgu
Mae ein systemau presennol o gymorth ar gyfer plant a’u teuluoedd wedi creu rhaglenni sydd yn newid bywydau a mentrau sydd wedi cyfrannu at welliannau i gannoedd ar filoedd o blant. Ond gan fod y byd wedi mynd yn fwy cymhleth ac yn gofyn mwy, ni all ein hymagwedd bresennol gadw i fyny. Nid yw datrys argyfwng iechyd meddwl yn ymwneud â mwy o fynediad at therapi un i un, cwnsela, therapi neu wasanaethau iechyd meddwl yn unig. Mae’n ymwneud â chreu cymunedau seico-gymdeithasol iach. Mae’n bryd archwilio’r hyn y mae plant a theuluoedd heddiw ei angen a sut i ailddylunio ein hymagwedd a’n gwasanaethau i’w helpu yn well.
Gwaddol a Lledaenu
- Yn ystod y prosiect peilot hwn, bydd dau ddigwyddiad dysgu i rannu’r wybodaeth gyda’r CAG a rhanddeiliaidlleol.
- Bydd adnoddau’n cael eu rhannu ar wefan y CAG ac ar gael i randdeiliaid
- Bydd adroddiad gwerthuso a chasgliad o’r hyn a ddysgwyd a straeon fydd yn
- cael eu rhannu gyda rhanddeiliaid allweddol
Addaswyd o:
- “Breaking the Poverty & Poor Mental Health Cycle: The Need for Whole Family Early Years Support” Jen Daffin, 2021
- “ELC Community Trauma Project Pilot Plan, Bettws ELC, 2020
- “Community Resilience and Wellbeing in Bettws – draft survey report”, 2020
May 11, 2022 | Covid-19
Mae bellach yn ddwy flynedd i mewn i fywyd gyda Covid ac fel mam i dri o fechgyn, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld uchafbwyntiau a chyfnodau isel. Yn ystod y cyfnod clo, roedd heriau cynnal ysgol gartref, gweithio a rheoli teimladau o ansicrwydd, yn llethol ar adegau.
Ond fel teulu fe ddaethom drwyddi. Gyda’n gilydd
Fe wnaeth y teimladau o fod gyda’n gilydd a welais ar fy stepen drws, ac yn y gymuned lle rwy’n gweithio yn Betws yng Nghasnewydd, de Cymru, fy nghadw i fynd. Roedd pobl yn estyn allan i helpu ei gilydd, yn arbennig wrth i’r pandemig ddatgelu dyfnder yr anghydraddoldeb mewn cymdeithas a gwneud i bobl sylweddoli’r heriau dyddiol y mae’r rheiny sy’n byw ar incwm isel yn eu hwynebu.
Roedd teuluoedd eisoes yn cael anhawster cyn yr argyfwng. Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi clywed bod llawer wedi gorfod torri’n ôl ar hanfodion fel bwyd, gwres a dillad ar gyfer plant ac yn suddo’n ddyfnach i mewn i ddyled. Nid oedd gan lawer o rieni’r offer, yr adnoddau a’r sgiliau chwaith i gefnogi addysg a datblygiad eu plant yn ddigonol gartref, wnaeth arwain at lawer o straen a gorbryder.
Nid yw’r heriau hyn wedi eu cyfyngu i gyfnodau clo ac wrth i ni ddod allan i normal newydd, mae pwysau’r argyfwng costau byw yn golygu bod angen ymagweddau newydd arnom i sicrhau bod yr hyn sydd yn bwysig i deuluoedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Ynglŷn â Betws a’r Gymuned Addysg Gynnar
Mae Betws yn ystâd o’r 1960au ar ymyl dinas Casnewydd, sef ystâd dai fwyaf Ewrop ar un adeg. Mae’n ardal sydd wedi gweld heriau gwirioneddol gydag un o’r cyfraddau tlodi sydd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru, ond mae yna deimlad cryf o gymuned.
Mae prosiect Cymuned Addysg Gynnar Betws yn bartneriaeth rhwng Achub y Plant, ysgolion cynradd lleol, rhieni, Cyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru, ymwelwyr iechyd, yr heddlu, grwpiau troseddwyr ifanc a chymdeithasau tai sydd wedi dod ynghyd i wella canlyniadau addysg gynnar i blant yn yr ardal. Mae’n ceisio creu man lle mae gan bob plentyn gyfle cyfartal i lwyddo a ffynnu.
Dechreuodd y prosiect ar ei daith yn 2018, gan edrych pa broblemau oedd gan y gymuned a sut gallem fynd i’w gwraidd. Ein nod yw uno a chryfhau gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn syrthio trwy’r bylchau.
Pan gyhoeddwyd y cyfnod clo cyntaf ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom symud yn gyflym i gyfarfodydd ar-lein a chanfod ein bod yn gallu creu cymorth gwirioneddol yn gyflym. Gan weithio gyda’n partneriaid ar lawr gwlad, roeddem yn gallu cyflwyno 80 o grantiau mewn argyfwng i helpu i brynu eitemau sylfaenol i’r cartref a thalebau bwyd. Trwy roddion a chyfraniadau roeddem hefyd yn gallu cyflwyno pecynnau hylendid, pecynnau adnoddau teuluol, dyfeisiadau digidol a chymorth gyda dysgu yn y cartref, yn cynnwys dros 70 o chrome books.
Cipio lleisiau plant ar ffilm
Yn ystod 2020, comisiynwyd criw ffilmio i gipio lleisiau plant oedd yn byw yn Betws a chyfleu eu gobeithion a’u hofnau wrth iddynt dyfu i fyny yn y gymuned fach hon. Maent yn mynd ymlaen i siarad am yr heriau a’r penderfyniadau y maent eisiau i oedolion eu gwneud i sicrhau bywyd gwell iddynt.
Mae Lily May, sydd yn wyth oed, eisiau “i’r holl oedolion gydweithio i adeiladu tai newydd, gwell er mwyn i bobl sydd yn dlawd allu byw ynddynt.” Byddai Junior, sydd hefyd yn 8, yn hoffi ‘newid llygredd plastig.”
Dechreuodd y ffilmio ym mis Chwefror, cyn y cyfnod clo ac aeth ymlaen i mewn ac allan o gyfyngiadau lleol pan oedd y camerâu yn gallu ailymweld a chroniclo sut roedd bywyd wedi newid i’r plant a sut roedd prosiect Cymuned Addysg Gynnar Betws wedi gallu helpu.
Mae’r plant yn siarad ar y camera am y ffordd y gwnaeth pandemig Covid-19 effeithio ar eu bywydau ar yr ystâd, yn arbennig pan oedd yr ysgol ar gau, ac roedd y cyfnodau clo lleol o ganlyniad yn golygu eu bod wedi gorfod addasu i ddysgu gartref eto, gan golli allan ar weld eu hathrawon a’u ffrindiau.
“Roeddwn yn teimlo’n drist am fy mod yn caru’r ysgol,”
Laura, 8
“O’r blaen, roeddem yn gallu rhoi cwtsh i’n ffrindiau a’u gweld a defnyddio pensiliau lliw ein gilydd. Ond ni allwn rhagor, mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein rhai ein hunain,”
Cassie-Ella, 9
Mae’r ffilm fer ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd yn cynnwys lleisiau athrawon a phartneriaid oedd yn gweithio i helpu teuluoedd ar yr ystâd yn ystod yr argyfwng,
“Ni allai unrhyw un ohonom fod wedi rhagweld ein bod yn mynd i gael ein taro gan bandemig oedd yn golygu y byddai ysgolion ar gau ac na fyddem yn gallu mynd i unrhyw le. Roedd effaith y ffaith fod prosiect Cymunedau Addysg Gynnar Betws eisoes wedi ei sefydlu yn golygu ein bod yn barod i fynd.”
Lindsay Watkins, Pennaeth, Ysgol Gynradd Millbrook
Ond er ei fod wedi bod yn amser anodd, mae teimlad o optimistiaeth o’r hyn y gellir ei gyflawni wrth symud ymlaen a datblygu cadernid y plant a’u teuluoedd i weithio gyda’i gilydd fel cymuned. Rydym wedi dysgu gwersi gwerthfawr oddi wrth ein gilydd, yn arbennig y plant yr ydym yn ceisio sicrhau eu dyfodol.
Fel y dywed Kobie, sydd yn 9 oed, yn y ffilm: “Dyma sut mae cadernid yn gweithio!”
A dyma ffilm fer o Rebecca’n esbonio sut llwyddwyd i helpu teuluoedd yn Betws yn ystod y cyfnod clo